Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd Grŵp Llandrillo Menai

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Grŵp Llandrillo Menai (www.gllm.ac.uk). Caiff y wefan hon ei chynnal gan Grŵp Llandrillo Menai.

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, dylai hyn olygu eich bod yn gallu:

  • l newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • l chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
  • l symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • l symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • l gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

⁠Rydym hefyd wedi gwneud iaith y wefan mor syml â phosibl i'w deall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch, er enghraifft:

  • Nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
  • Nid yw'r systemau ar-lein trydydd parti a ddefnyddiwn i alluogi pobl i ymgeisio am gyrsiau'n cydymffurfio â nifer o feini prawf y Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).
  • Trwy gydol ein gwefan, nid oes gan sawl delwedd destun amgen (alt text), neu mae ganddynt alt text nad yw'n ddisgrifiadol o'r ddelwedd.

Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen gwybodaeth y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordio sain, neu Braille, cysylltwch â ni neu ffonio ar 01492 542 338.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch neges e-bost at dewi.parry@gllm.ac.uk neu ffonio ar 01492 542 338 a gofyn am gael siarad â'r tîm Marchnata.

Gweithdrefn orfodi

⁠Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). ⁠ ⁠ Os nad ydych yn fodlon â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) .

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol

Mae gennym nifer o gampysau, safleoedd a lleoliadau yng nghymunedau lleol gogledd Cymru.

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

⁠Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018. ⁠ ⁠

Statws Cydymffurfio

⁠Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Safon AA Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

⁠Nid oes gan y maes enw "name" ar bob un o'n ffurflenni cyswllt gwefan unrhyw werth awtogwblhau penodol. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol a defnyddwyr â namau gwybyddol lenwi ffurflenni. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 1.3.5 WCAG 2.1 Nodi diben mewnbwn'. Mae hyn yn nam mewn ategyn a ddefnyddiwn ar gyfer ein ffurflenni gwe. Dylai gael ei ddatrys gan y datblygwyr mewn fersiynau diweddarach.

Mae gan rai ifframiau (iFrame) labeli nad ydynt yn ddisgrifiadol Mae penawdau a labeli clir a disgrifiadol yn helpu defnyddwyr i ddeall y cynnwys yn haws. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 2.4.6 WCAG 2.1 Penawdau a labeli'. Byddwn yn sicrhau bod gan yr holl ifframiau labeli disgrifiadol erbyn 2024.

Rydym yn ymwybodol nad oes modd gweld dewisiadau is-ddewislenni gyda ffocws bysellfwrdd pan gaiff tudalen ei chwyddo i 200% neu fwy, gan wneud cael mynediad iddynt yn anodd. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 2.4.7 WCAG 2.1 Ffocws gweladwy'. Rydym yn bwriadu datrys y broblem hon erbyn 2024.

Problemau gyda PDFs a dogfennau eraill

Mae llawer o'n PDFs:

  • Yn cynnwys graffeg heb unrhyw destun amgen. Rhaid i gynnwys di-destun fel delweddau, siartiau ac iconau gynnwys testun amgen er mwyn rhoi'r un wybodaeth neu ystyr i ddefnyddwyr nad ydynt yn gallu gweld y cynnwys, fel defnyddwyr darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 1.1.1. WCAG 2.1 Cynnwys di-destun'.
  • Heb gael eu tagio, sy'n golygu bod defnyddwyr technoleg gynorthwyol yn debygol o wynebu anawsterau wrth ddarllen pethau fel penawdau, rhestrau a thablau. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 1.3.1. WCAG 2.1 Gwybodaeth a chysylltiadau'.
  • Yn cynnwys graffeg sy'n dibynnu ar liw i adnabod adrannau. Ni ddylai lliw fod yr unig ffordd o gyfleu ystyr i ddefnyddwyr. Pan ddefnyddir lliw i adnabod elfen, rhaid defnyddio dull arall hefyd. Mae hyn yn helpu defnyddwyr na allant weld lliwiau'n dda, neu a all fod wedi newid y gosodiadau lliw i weddu i'w hanghenion, i gael yr un wybodaeth mewn ffordd wahanol. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 1.4.1. WCAG 2.1 Defnydd o liw'.
  • Yn cynnwys testun mewn graffeg sydd â chyferbyniad isel. Mae cyferbyniad lliw gwael rhwng y testun a'i gefndir yn ei gwneud yn anoddach i bob defnyddiwr weld y cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1 Cyferbyniad (lleiafswm)'.
  • ⁠Yn cynnwys delwedd o'r testun. Ni ddylid defnyddio delweddau o'r testun os na all defnyddwyr eu newid i ddiwallu eu hanghenion, er enghraifft, trwy gynyddu maint y ffont. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 1.4.5 WCAG 2.1 Delweddau o'r testun'.
  • Nid oes unrhyw iaith sylfaenol wedi'i gosod. ⁠Mae technolegau cynorthwyol a phorwyr yn fwy cywir pan nodir iaith y cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 3.1.1 WCAG 2.1 Iaith y dudalen'.

Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau newydd a gyhoeddwn yn bodloni'r safonau hygyrchedd.

Problemau gyda delweddau, fideos a sain

  • Trwy gydol ein gwefan, nid oes gan sawl delwedd destun amgen (alt text), neu mae ganddynt alt text nad yw'n ddisgrifiadol o'r ddelwedd. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 1.1.1. WCAG 2.1 Cynnwys di-destun'. Rydym yn anelu at sicrhau bod gan bob delwedd ddisgrifiadol, siart ac eicon destun amgen disgrifiadol erbyn 2024.
  • O 09/05/2023 ymlaen:
    • Ni all defnyddwyr ychwanegu delweddau anaddurniadol newydd i'n System Rheoli Cynnwys heb destun amgen.
    • Bydd delweddau addurnol yn troi'n ddiofyn i briodoledd alt null yn hytrach na theitl y ddelwedd, sy'n dangos i ddarllenwyr sgrin fel NVDA eu bod yn addurniadol ac felly i gael eu hanwybyddu.

⁠Problemau'n gysylltiedig â systemau trydydd parti

Systemau gwneud cais amd gwrs ar-lein

Nid yw'r systemau ar-lein trydydd parti a ddefnyddiwn i alluogi pobl i ymgeisio am gyrsiau'n cydymffurfio â nifer o feini prawf y Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). Rydym yn ymwybodol o'r materion canlynol yn ymwneud â diffyg cydymffurfio:

  • Nid oes gan nifer o feysydd ar ffurflenni werthoedd awtogwblhau penodedig. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol a defnyddwyr â namau gwybyddol lenwi ffurflenni. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 1.3.5 WCAG 2.1 Nodi diben mewnbwn'.
  • Ceir problemau'n gysylltiedig â chyferbyniad trwy'r holl wefan ymgeisio am gyrsiau - gyda'r testun, y penawdau, y botymau, y dewisiadau a'r ffurflenni (e.e. hysbysiadau mewngofnodi a hysbysiadau gwallau). Mae cyferbyniad lliw gwael rhwng y testun a'i gefndir yn ei gwneud yn anoddach i bob defnyddiwr weld y cynnwys. Mae'r rhain i gyd yn methu 'WCAG 1.4.3 Cyferbyniad (lleiafswm)'.
  • Mae nifer o dudalennau'n anodd eu darllen o'u chwyddo 400%. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg a all fod angen chwyddo'r testun ar y wefan i'w ddarllen mewn un golofn heb orfod sgrolio i fwy nag un cyfeiriad. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 1.4.10 WCAG 2.1 Ail-lifo'.
  • Mae'r adnodd gwall 'tooltip' yn diflannu ar ffurflenni wrth ddefnyddio hofran/ffocws bysellfwrdd. Gall cynnwys sy'n ymddangos / diflannu pan fydd elfen yn cael ffocws bysellfwrdd neu hofran ddrysu defnyddwyr oherwydd efallai nad ydynt wedi bwriadu sbarduno gweithred neu efallai na fyddant yn sylwi bod cynnwys newydd wedi ymddangos/diflannu. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 1.4.13 WCAG 2.1 Cynnwys ar hofran neu ffocws'.
  • Mae dewisiadau dewislenni hambyrger a dewislenni cyfrifon yn cael sylw yn y drefn anghywir wrth ddefnyddio'r bysellfwrdd Dylai defnyddwyr allu symud o gwmpas tudalen mewn trefn sy'n gwneud synnwyr. ⁠Mae gallu symud o gwmpas mewn ffordd sy'n rhesymegol yn lleihau dryswch ac yn cadw'r berthynas rhwng y cynnwys a'r cydrannau. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1 Trefn y ffocws'.
  • ⁠Botymau, e.e. Does gan 'Dewis ffeiliau' ddim ffocws gweladwy. ⁠Rhaid i bob elfen ryngweithiol, fel dolenni neu fotymau, gael dangosydd gweladwy wrth ddefnyddio bysellfwrdd i ffocysu. Mae hyn yn helpu defnyddwyr i wybod pa rannau o'r dudalen gwe neu'r ap y gallan nhw ryngweithio â hwy, ac yn dangos eu lle iddynt. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 2.4.7 WCAG 2.1 Ffocws gweladwy'.
  • Trwy holl dudalennau amlieithog y ffurflen Ymgeisio Ar-lein, nid yw newidiadau yn yr iaith wedi'u marcio mewn HTML. Mae ieithoedd diofyn y tudalennau wedi cael eu gosod yn Saesneg. ⁠Mae technolegau cynorthwyol a phorwyr yn fwy cywir pan nodir iaith y cynnwys. Pan fydd rhannau o'r cynnwys wedi'u hysgrifennu mewn iaith arall, mae angen marcio'r newid mewn iaith yn y cod. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 3.1.2 WCAG 2.1 Iaith y rhannau'.
  • Ar y Ffurflen Ymgeisio Ar-lein, nid yw camau'r broses yn cael eu nodi'n gyson (yn weledol) ar draws y tudalennau. Mae defnyddwyr darllenydd sgrin yn dibynnu ar swyddogaethau sydd wedi cael eu marcio mewn ffordd gyson er mwyn ei gwneud yn haws defnyddio gwefan a rhagweld sut i ddefnyddio pob tudalen. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 3.2.4 WCAG 2.1 'Dynodi cyson'.
  • ⁠Mae elfennau rhiant ar goll yng nghelloedd tablau HTML, e.e. Tabl Cymwysterau a thabl Gwybodaeth Ategol Mae defnyddio ieithoedd marcio'n gywir yn sicrhau bod y cynnwys a'r nodweddion yn gweithio mewn modd dibynadwy ar yr holl borwyr, dyfeisiau a thechnolegau cynorthwyol. Mae technolegau cynorthwyol fel darllenwyr sgrin yn dibynnu ar ddefnydd semantig cywir o elfennau i ddehongli gwybodaeth i ddefnyddwyr yn gywir. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 4.1.1. Dosrannu a 1.3.1 Gwybodaeth a Chysylltiadau WCAG 2.1'.
  • Nid oes gan nifer o feysydd dewis a chwymplenni enw hygyrch. ⁠Golyga hyn na all technolegau cynorthwyol adnabod enw a swyddogaeth cydrannau, setiau gosod, priodweddau a gwerthoedd, a hysbysu defnyddwyr am newidiadau i'r rhain. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 4.1.2. WCAG 2.1 Enw, rôl, gwerth'.

Rydym yn trafod gyda chyflenwyr trydydd parti ac yn ymchwilio i ddewisiadau amgen ar gyfer ein systemau ymgeisio ar-lein.

LiveChat

Rydym yn defnyddio LiveChat ar ein gwefan i gysylltu â'n defnyddwyr ac i ateb eu cwestiynau. Rydym yn gwybod bod testun hygyrch Saesneg ar fotwm sgwrsio'r dudalen gartref Gymraeg. Mae penawdau a labeli clir a disgrifiadol yn helpu defnyddwyr i ddeall y cynnwys yn haws. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 2.4.6 WCAG 2.1 Penawdau a labeli' ar fersiwn Cymraeg ein gwefan.

Mae hyn yn gyfyngiad ar feddalwedd LiveChat gan nad yw'n cefnogi'r Gymraeg. Rydym wedi cysylltu â chwmni LiveChat ac ni fyddant yn defnyddio'r Gymraeg yn y dyfodol, felly nid oes modd datrys hyn. Felly rydym yn y broses o brofi meddalwedd sgwrsio sy'n defnyddio'r Gymraeg yn llawn, a gobeithio y bydd hwn yn ei le erbyn diwedd 2024.

ReachDeck

Rydym yn defnyddio ReachDeck ar ein gwefan i wella hygyrchedd, darllenadwyedd a chyrhaeddiad ein cynnwys ar-lein. Rydym yn ymwybodol bod modd canslo rheolyddion ReachDeck ar ddyfeisiau symudol (wedi profi hyn ar iPhone). Yn ogystal, mae'r botwm Gosodiadau yn cael ei actifadu ar "i lawr" pan ddylid ei actifadu ar "i fyny". Er mwyn atal defnyddwyr rhag sbarduno'r camau anghywir ar ddamwain, ni ddylid cwblhau unrhyw gamau wrth glicio neu dapio "i lawr" ar elfen fel botwm. Yn hytrach, dylid cwblhau camau gweithredu ar "i fyny", pan gaiff cyswllt ei ryddhau, a dylai fod ffordd o ganslo'r weithred. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 2.5.2 WCAG 2.1 Canslo pwyntydd'. Rydym yn trafod datrysiad posibl gyda chyflenwr trydydd parti.

Fideos

Ar rai tudalennau caiff ffocws y bysellfwrdd ei golli wrth dabio drwy'r cynnwys fideo. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 2.4.7 WCAG 2.1 Ffocws gweladwy'. Mae hyn tu hwnt i'n rheolaeth gan fod y cynnwys yn rhan o YouTube/Vimeo.

Ar rai tudalennau ceir ifframiau sy'n cynnwys elfennau sy'n defnyddio nodweddion ARIA nad ydynt yn cael eu caniatáu. Nid yw hyn yn bodloni 'Maen prawf llwyddiant 4.1.2. WCAG Enw, rôl, gwerth'. Mae hyn tu hwnt i'n rheolaeth gan fod y cynnwys yn rhan o YouTube.

Baich anghymesur

Ar hyn o bryd, nid ydym wedi hawlio unrhyw faich anghymesur.

Cynnwys nad yw'n rhan o'r rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Mae rhai o'n PDFs a'n dogfennau Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym PDFs sy'n cynnwys gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau a ffurflenni eraill a gyhoeddir ar ffurf dogfennau Word. ⁠Rydym yn bwriadu un ai trwsio'r rhain neu osod tudalennau HTML hygyrch yn eu lle erbyn 2024.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Dyma beth mae Grŵp Llandrillo Menai'n ei wneud i wella hygyrchedd:

  • Hyfforddi cynhyrchwyr cynnwys a golygyddion CMS i sicrhau bod hygyrchedd yn flaenllaw yn yr hyn a wnawn

Bwriada Grŵp Llandrillo Menai wneud y pethau canlynol i wella hygyrchedd:

  • Hyfforddi timau datblygu'r we ynghylch sut i gynnal hyfforddiant/profion hygyrchedd
  • Byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd yn rhan o ofynion y broses gaffael ar gyfer darparwyr trydydd parti
  • Hyfforddi adrannau a thimau ynghylch sut i sicrhau bod yr holl gynnwys gwe yn hygyrch

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 22/06/2023. Diweddarwyd y datganiad hwn ar 05/07/2023. Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 05/05/2023. ⁠Profwyd sampl cynrychioliadol o dudalennau'r wefan ynghyd â sampl o ddogfennau o bob rhan o'r wefan. Cafodd y prawf ei gynnal yn fewnol.

Mae'r Tîm Gwe yn cynnal profion rheolaidd ar y tudalennau yr ymwelir â hwy amlaf – sy'n cynrychioli gwahanol fathau o gynnwys a thudalennau ar ein gwefan.

Fe wnaethom ni ddefnyddio'r ategion porwyr canlynol ar gyfer ein profion awtomataidd: axe DevTools, WAVE a WebAIM Contrast Checker.