Safonau’r Gymraeg a Pholisi Iaith
Ers 1 Ebrill 2018, mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i Safonau’r Iaith Gymraeg a ososdir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 4A Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Safonau’r Iaith Gymraeg
Ers 1 Ebrill 2018, mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i Safonau’r Iaith Gymraeg a ososdir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 4A Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r Safonau yma yn gosod disgwyliadau pendant ar y Grwp i gynnig gwasanaethau Cymraeg i ddysgwyr a’r cyhoedd ac i hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau.
Mae’r Safonau Iaith wedi eu rhannu yn 5 dosbarth:
- Cyflenwi Gwasanaethau
- Llunio Polisi
- Gweithredu
- Gweithredu
- Cadw Cofnodion
- Hybu
Yn yr un modd ag yr oedd y Grŵp yn adrodd yn flynyddol ar weithrediad ei Gynllun Iaith, bydd y Grŵp yn paratoi a chyhoeddi adorddiadau blynyddol ar ei gydymffurfiad efo’r Safonau Iaith ac yn adrodd ar ddatblygiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn yn y sefydliad i gryfhau’r gwasanaethau Cymraeg.
Polisi Iaith
Mae’r Grŵp wedi llunio Polisi Iaith er mwyn sicrhau bod y Grŵp a Staff y Grŵp yn parhau i hyrwyddo’r Gymraeg. Mae’r polisi iaith newydd yn amlinellu sut y bwriedir cydymffurfio â’r Safonau a sut bydd y Grŵp yn mynd ati i fanteisio ar bob cyfle posib i hywryddo’r defnydd o wasnaethau Cymraeg.
Cwynion Iaith
Bydd unrhyw gwynion yn ymwneud a chydymffurfiad a’r Safonau neu diffyg ar ran y Grŵp i ddarparu gwasnaeth cyfrwng Cymraeg, yn cael eu hadrodd i’r Panel Iaith, ac yn dilyn trefn gwynion arferol y Grwp.
Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw gwyn iaith at Gomisiynydd y Gymraeg: Gwefan Comisiynydd y Gymraeg.
Adroddiad Blynyddol ar y Safonau Iaith Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg Grŵp Llandrillo Menai 2023-24
- Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg Grŵp Llandrillo Menai 2021-22
- Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg Grŵp Llandrillo Menai 2020-21
- Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg Grŵp Llandrillo Menai 2019-20
- Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg Grŵp Llandrillo Menai 2018-19
- Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg Grŵp Llandrillo Menai, Ebrill - Gorffennaf 2018