Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Perfformio i'r Eithaf

Cyfres o seminarau ar berfformiad a llesiant a gynhelir gan Goleg Llandrillo.

Ymunwch â ni i gael cyfle arbennig i glywed gan siaradwyr gwadd nodedig sydd wedi perfformio i'r eithaf yn eu gwahanol feysydd, yma yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.

Yn agored i fyfyrwyr a’r cyhoedd.

Mai:

Craig Knight, Datblygwr Chwaraewyr i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Phennaeth Hyfforddi'r Tîm Dan 18 oed

Hyfforddi mewn Amgylched Elît Cenedlaethol

Gweithio ym maes datblygu chwaraewyr i Gymdeithas Bêl-droed Cymru mae Craig, ac mae wedi cwblhau Gradd Meistr mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae hefyd wedi sicrhau'r cymhwyster hyfforddi 'Pro Licence'.

Yn ei swydd mae'n gyfrifol am adnabod a datblygu chwaraewr dawnus o naw oed hyd at y lefel broffesiynol, gan gydweithio â rheolwyr a hyfforddwyr academïau'r clybiau i roi cynlluniau ar waith ar eu cyfer. Ar ben hyn mae'n creu ac yn cyflwyno rhaglenni i ddatblygu chwaraewyr talentog yng Nghymru a'u helpu i gael eu dewis ar gyfer y carfannau cenedlaethol.

Craig oedd yr hyfforddwr cyntaf yng Nghymru i gystadlu yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau dan 17 oed UEFA.

Archebwch eich lle yma.

__________________

Mehefin:

Alex Marshall-Wilson – Chwaraewr Pêl-fasged Cadair Olwyn yn yr Uwch Gynghrair a Phencampwr Ewropeaidd dan 23. Astudio Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Loughborough.

Chwaraeon Cynhwysol
Coleg Llandrillo - Canolfan Brifysgol, Campws Llandrillo-yn-Rhos: Nos Iau 26 Mehefin, 6pm

"Ro'n i wrth fy modd yn gwylio chwaraeon pan o'n i'n iau, ond oherwydd fy anabledd do'n i byth yn cael cymryd rhan. Wnes i erioed feddwl y byddai fy mywyd yn newid pan o'n i'n 10 oed.

"Mi gefais i fy nghyflwyno i fyd pêl-fasged cadair olwyn ac o'r sesiwn gyntaf, ro'n i wedi gwirioni.

"Mi agorodd nifer o ddrysau - doeddwn i ddim yn disgwyl hynna! O fewn blwyddyn i ddechrau chwarae, mi gefais i fy newis i gynrychioli Cymru dan 15.

"Bellach wedi 10 mlynedd o gystadlu, dw i'n Bencampwr Ewropeaidd dan 23, yn chwaraewr yn yr Uwch Gynghrair ac yn astudio Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Loughborough."

Archebwch eich lle yma.

Peak Performance
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date