Salonau Gwallt a Harddwch
Mae gennym salonau gwallt a harddwch ar hyd a lled y Gogledd Orllewin - ym Mangor, yn Nolgellau, yn Llandrillo-yn-Rhos ac yn Y Rhyl. Yn y salonau hyfforddi hyn, cynigir triniaethau trin gwallt, triniaethau harddwch a therapi cyfannol o safon uchel a phroffesiynol. Caiff y salonau eu rhedeg gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer cymwysterau yn y maes. Bydd ein tîm o staff profiadol yn goruchwylio gwaith y myfyrwyr hyn drwy gydol yr amser a gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y gwasanaeth a gewch o'r safon ucha.
Yn y rhan fwyaf o'r salonau, mae apwyntiadau ar gael yn ystod y dydd ac ar rai min nosau. Gan fod ar y myfyrwyr Gwallt a Harddwch wastad angen cleientiaid i gwblhau eu cymwysterau, mae'r drysau'n agored i'r cyhoedd, boed yn ddynion neu'n ferched.
Bydd rhai myfyrwyr sy'n gweithio mewn ambell salon eisoes wedi cymhwyso, ond yn parhau â'u hyfforddiant er mwyn dysgu rhagor o sgiliau. Am bris ychydig yn uwch, gall cleientiaid ofyn am gael steilio eu gwallt gan fyfyriwr cymwysedig.
Dolgellau: Coleg Meirion-Dwyfor
01341 424 922
Gall aelodau o'r cyhoedd drefnu apwyntiadau yn y Salon yn Nolgellau i gael amrywiaeth o wasanaethau trin gwallt, gan gynnwys ei dorri, ei liwio, ei chwyth-sychu neu ei byrmio. Gallwch hefyd wneud apwyntiad i gael triniaethau harddu fel siapio'ch aeliau, tylino'ch wyneb, ffeilio a phaentio'ch ewinedd, a thrin eich traed a'ch dwylo.
Oriau Agor
Llun 13:30-15:45
Mawrth 13:30-15:45
Mercher 13:30-15:45
Iau 13:30-15:45
Gwener 09:30-11:45 & 13:30-15:45
Friars Salon: Bangor
Mae'r Salonau wedi'u lleoli yn adeilad hanesyddol Friars ym Mangor. Ymhlith y gwasanaethau trin gwallt a gynigir, mae lliwio, pyrmio, trin gwallt ar gyfer achlysuron arbennig, a thorri gwalltiau dynion a merched. Ymhlith y triniaethau Harddwch a Therapi Cyfannol, mae lliwio blew llygaid, cael gwared ar flew a thriniaethau sba (tylino maldodus, therapi cerrig poeth a thylino'r pen yn y dull Indiaidd).
Salon The Graduate: Llandrillo-yn-Rhos
Mae'r salonau modern yn llefydd ymlaciol i gael eich pampro. Mae'r gwasanaethau trin gwallt a gynigir i ddynion a merched yn amrywio o 'dorri a steilio' a barbro i drin gwallt ar gyfer achlysur arbennig (e.e. parti) a lliwio, gan gynnwys gwasanaeth cywiro lliw. Ymhlith y triniaethau harddu, mae trin yr wyneb, y dwylo a'r traed, coluro, cwyro a thylino.
Salon Clwyd: Rhyl
01745 345 827
Mae'r salonau modern yn llefydd ymlaciol i gael eich pampro. Ymhlith y gwasanaethau trin gwallt a gynigir, mae lliwio, pyrmio, trin gwallt ar gyfer achlysuron arbennig, a thorri gwalltiau dynion a merched. Mae'r triniaethau harddu'n cynnwys trin y dwylo a'r traed, celfyddyd ewinedd, cwyro a lliwio blew llygaid ac aeliau.
Oriau Agor
Llun 09:00-16:00
Mawrth 09:00-16:00
Mercher 09:00-16:00
Iau 13:00-20:00
Gwener 9:00-16:00
Mae'r salon hefyd ar agor yn ystod gwyliau'r haf, gwyliau hanner tymor, a chynhelir sesiynau ychwanegol ar adegau penodol o'r flwyddyn.