Diwrnod Canlyniadau 2023
Rydym yn dymuno'n dda i bob myfyriwr
Cyrsiau Lefel 1 a 2 - Dydd Iau, 24 Awst
Canlyniadau cyrsiau BTEC, City and Guilds, WJEC a TGAU
Cyhoeddir pob canlyniad Lefel 1 a 2 ar eDrac am 8.00am.
Mae gan ddysgwyr cyrsiau TGAU y dewis hefyd o gasglu eu canlyniadau o'r safle lle wnaethant sefyll yr arholiad rhwng 8.00am a 10.30am
Anfonir pob slip canlyniadau heb ei gasglu drwy bost Dosbarth Cyntaf am 11.00am y diwrnod hwnnw er mwyn i ddysgwyr eu derbyn y diwrnod canlynol.
Does dim slip canlyniadau swyddogol i fyfyrwyr cyrsiau galwedigaethol ac oherwydd hynny, dydy casglu o'r safle ddim yn berthnasol.