Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol (14-18)
Gallai dod i’r coleg newid eich bywyd! Yn ôl ein cyn-fyfyrwyr, bu’r cyfleusterau tan gamp, y ffrindiau newydd a wnaethant a’r gefnogaeth a gawsant gan diwtoriaid yn fodd iddynt gael profiadau gwych yn y coleg, ac yn help iddynt gyrraedd targedau na chredent oedd yn bosib.
Mae gadael yr ysgol yn gyfnod cyffrous, ond gyda chynifer o gyrsiau a llwybrau gyrfa i ddewis ohonynt fe all fod yn eithaf brawychus hefyd.
Yn ôl ein myfyrwyr, bu'r cyfleusterau tan gamp, y ffrindiau newydd a wnaethant a'r gefnogaeth a gawsant gan diwtoriaid yn fodd iddynt gael profiadau gwych yn y coleg, ac yn help iddynt gyrraedd targedau na chredent oedd yn bosibl.
Os ydych chi'n ystyried beth i'w wneud ar ôl gorffen eich arholiadau TGAU, yn awyddus i gael swydd newydd neu'n bwriadu mynd i'r brifysgol, mae gennym ni'r ateb i chi.
Pa gymhwyster bynnag a ddewiswch, gallwch fod yn sicr y bydd safon yr addysg a'r gefnogaeth bersonol a gewch chi'n ardderchog ac yn eich arwain at ddyfodol gwell.
Dechreuwch eich stori heddiw!
Cyrsiau Llawn Amser
Mae ein cyrsiau llawn amser yn canolbwyntio ar ddysgu galwedigaethol ymarferol, gan roi'r cyfle i chi feithrin y sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gyrfa.
A chyda dros 20 o feysydd pwnc gwahanol i ddewis ohonynt, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb.
Lefel A
Mae ein canolfannau Chweched Dosbarth yn gam nesaf delfrydol os ydych chi'n gobeithio mynd ymlaen i brifysgol neu gyflogaeth ar ôl dilyn eich cyrsiau Lefel A.
Yn 2024, roedd cyfradd llwyddo ein myfyrwyr Lefel A yn 99% ac aeth llawer ohonynt ymlaen i astudio mewn prifysgolion blaenllaw sy'n perthyn i Grŵp Russell, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt!
Prentisiaethau
Mae prentisiaethau'n cyfuno hyfforddiant yn y gwaith â gwersi arbenigol, gan roi'r cyfle i chi feithrin sgiliau gwerthfawr a chael profiad go iawn o'r byd gwaith gyda chyflogwr.