Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dechrau fis Medi 2024

Gwybodaeth a chwestiynau cyffredin

Rydw i'n dilyn cwrs newydd yn y coleg ym mis Medi. Sut mae gwneud cais am le?

Mae dau gam syml dylai ymgeiswyr sydd wedi derbyn cynnig i astudio yn y coleg gofrestru ar eu rhaglen eu dilyn er mwyn cofrestru ar eu rhaglen.

Cam 1 - Digwyddiadau Sicrhau eich Lle: Dydd Iau 22 Awst a dydd Gwener 23 Awst

Mae cofrestru yn y coleg yn ddibynnol ar gwrdd â gofynion mynediad y cwrs. Os ydych yn ddisgybl ysgol, unwaith y byddwch wedi derbyn canlyniadau eich arholiadau TGAU, dewch draw i'r coleg unrhyw bryd rhwng 10am a 4pm ar y naill ddiwrnod neu'r llall i sicrhau eich lle ar y cwrs rydych wedi ei ddewis.

Rhaid i ddysgwyr sydd wedi astudio yn y coleg yn y gorffennol ac sy'n dechrau ar raglen newydd, sicrhau eu lle hefyd.

Cam 2 - Cynefino: Dydd Iau 29 Awst a dydd Gwener 30 Awst

Cynhelir y sesiynau cynefino ddydd Iau 29 Awst a dydd Gwener 30 Awst i bob myfyriwr sy'n dilyn rhaglen newydd yn y Coleg. Yn ystod y cyfnod cynefino bydd dysgwyr yn cwrdd â'u tiwtoriaid, yn derbyn manylion am eu cwrs ynghyd â'r amserlen.

Bydd staff yn cysylltu â dysgwyr sy'n astudio rhaglenni Sgiliau Byw'n Annibynnol i roi gwybod pa ddiwrnod i ddod i'r coleg.

Byddaf yn astudio yng Nglynllifon ac yn aros yn yr Hostel, pryd ddylwn i ddod i'r coleg?

Gall dysgwyr sy'n aros yn yr hostel gyrraedd prynhawn dydd Llun, Medi 2 (bydd manylion pellach yn cael eu rhannu ymlaen llaw).

Bydd dysgu i ddysgwyr blwyddyn gyntaf yn dechrau ddydd Mawrth, Medi 3, a bydd gwersi i'r rheini sy'n symud i'r ail flwyddyn yn dechrau ddydd Mercher, Medi 4.

Pryd bydd dysgwyr yr ail flwyddyn yn dychwelyd i'r Coleg?

Bydd pob dysgwr sydd yn mynd i ail flwyddyn eu rhaglen e.e UG i A2, Tystysgrif Diploma yn derbyn gwybodaeth ar yr union ddyddiad cychwyn yn ystod yr wythnos sy'n dechrau dydd Llun 2 Medi 2024.

Byddwn yn anfon yr wybodaeth at eich cyfrif e-bost coleg.

Os nad ydych wedi derbyn ebost, cysylltwch gydag un ai eich tiwtor personol neu generalenquiries@gllm.ac.uk.

Wnes i ddim ennill y graddau disgwyliedig, alla i ddal dod i'r Coleg?

Mae'n bwysig nad ydych yn poeni. Os na lwyddoch chi i ennill y graddau disgwyliedig, rydym yma i'ch cynorthwyo. Dewch i'r Coleg, cewch siarad â thiwtoriaid a staff gyrfaoedd arbenigol a fydd yn gallu cynnig gwybodaeth a chyngor am gyrsiau a llwybr gyrfa sy'n gweddu orau i chi.

Heb wneud cais eto?

Os nad ydych wedi cwblhau cais ar-lein drwy wefan y coleg peidiwch â phoeni, dydy hi ddim yn rhy hwyr, gallwch wneud hynny rŵan.

I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau ewch i dudalen gwe gwneud cais rŵan.

Pryd bydd cludiant coleg yn dechrau?

Bydd cludiant coleg yn dechrau dilyn yr amserlen o ddydd Iau 30 Awst, 2024.

Ar gyfer amseroedd penodol y coleg a lleoliadau casglu myfyrwyr, ewch i dudalennau Cludiant y Coleg:

Beth ddylwn i ddod gyda mi?

Y diwrnod cynefino ydy'ch diwrnod cyntaf yn y coleg, felly mae'n bwysig eich bod yn paratoi. Gwnewch yn siŵr bod gennych feiro, papur neu liniadur i gymryd nodiadau. Gofynnir i bob myfyriwr dalu ffi adnoddau £25. Gellir talu hyn gydag arian parod, siec neu gerdyn. Peidiwch ag anghofio dod â phecyn bwyd gyda chi neu arian i brynu bwyd yn y caffi.

Cewch wybodaeth am ba ddarnau o offer penodol, cit, gwisg a dillad y byddwch chi eu hangen ar gyfer eich cwrs yn ystod y cyfnod Cynefino.

Fydd modd i mi gael rhagor o gefnogaeth i setlo yn y coleg a chefnogaeth gyda fy ngwaith cwrs?

Mae gan ddysgwyr fynediad at dîm o staff cefnogi proffesiynol a phrofiadol sy'n gweithio ochr yn ochr â chi a'ch tiwtoriaid. Siaradwch â'ch tiwtor yn ystod y cyfnod Cynefino neu galwch heibio'r adran Gwasanaethau i Ddysgwyr ac mi wnawn ni drafod pa gefnogaeth sy'n gweddu orau i chi.

Pa fath o gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr coleg?

Mae'r Gronfa Cefnogi Dysgwyr (LFS) yn darparu cymorth ariannol tuag at gostau sy'n gysylltiedig â dilyn cwrs ôl 16 e.e. gwisg, offer cwrs, gofal plant, rhai teithiau ac ati.

Ceir rhagor o fanylion ar ein tudalen cymorth ariannol a chewch gyfle i lenwi’r ffurflenni cais yn ystod eich cyfnod cynefino.

Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysgu (LCA/EMA) ar gael i fyfyrwyr llawn amser rhwng 16 a 18 oed sy'n dilyn cwrs addysg bellach ac mae Grant Dysgu Addysg Bellach Llywodraeth Cymru ar gael i ddysgwyr sy'n 19 oed neu'n hŷn na hynny. Rhaid bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am gyllid mor fuan â phosib er mwyn derbyn eich grant. Cliciwch yma i weld ydych chi’n gymwys ac i lenwi’r ffurflenni cais.

Oes prydau bwyd am ddim ar gael yn y coleg?

Mae pob dysgwr o dan 19 oed ar 30 Awst 2024 ac a oedd yn derbyn prydau bwyd am ddim yn ystod eu blwyddyn olaf yn yr ysgol yn gymwys i dderbyn lwfans pryd bwyd bob dydd. Fe'i telir yn uniongyrchol i'r dysgwyr. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais cysylltwch â: finance@gllm.ac.uk