Llysgennad Actif a Lles
Rhaglen Llysgenhadon Lles
Cynlluniwyd ein Rhaglen Llysgenhadon Lles i ddatblygu arweinwyr y dyfodol, gan hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles. Fel llysgennad byddwch yn arwain, ysbrydoli a dylanwadu, ac yn:
- cynrychioli llais dysgwyr dros les yn y coleg a’r gymuned
- hyrwyddo gwerthoedd iechyd a lles cadarnhaol
- bod yn fodel rôl ar gyfer hyrwyddo lles a ffyrdd iach o fyw
- cynyddu cyfleoedd cyfranogiad cynhwysol a ffyrdd iach o fyw i bawb
Fel rhan o’r rhaglen byddwch yn:
- cwblhau oriau gwirfoddol yn y coleg neu'r gymuned ehangach
- cael mynediad at gyfleoedd a chefnogaeth newydd
- cymryd rhan mewn syniadau prosiect a bod yn rhan o grŵp llywio lles dysgwyr
- mynediad at hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
- E-bost: lles@gllm.ac.uk
- Instgram @gllmlles
- Twitter @gllmlles