Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Fel aelodau o Gynghrair Dydd Mercher Dan 18 Undeb Rygbi Cymru bydd myfyrwyr yr Academi Rygbi yn cael cyfle i chwarae rygbi ar y lefel uchaf. Byddant yn cymryd rhan mewn gemau hynod gystadleuol sy'n llawer mwy dwys a chorfforol nag unrhyw beth maent wedi ei brofi ar y Lefel Dan 16. Gan fod y gemau hyn yn cael eu darlledu ar S4C, caiff y myfyrwyr gyfle i arddangos eu sgiliau gerbron cynulleidfa genedlaet

Datblygiad Rygbi
Fel rhan raglen ddatblygu'r Academi Rygbi, bydd gan ddysgwyr fynediad i'r canlynol:

  • 15 awr wedi'u hamserlennu ar gyfer rygbi - 3 sesiwn yr wythnos, gyda gemau'n cael eu chwarae ar ddydd Mercher.
  • Rhaglen ymarfer ddwys i baratoi ar gyfer y tymor rygbi
  • Pwyslais ar sgiliau craidd, sgiliau safle a sgiliau uned yn ogystal â rheoli gemau a thactegau
  • Dadansoddiad berfformiad unigol a thîm
  • Cynlluniau datblygu ac asesiadau sgiliau craidd

Datblygiad Academaidd
Bydd y rhaglen datblygu rygbi yn eich paratoi ar gyfer gyrfa bosibl fel chwaraewr rygbi proffesiynol neu rannol broffesiynol, ond ni all hynny fod yn sicr, ac efallai'n wir nad hyn yw eich blaenoriaeth.

Byddwch yn cadw pob drws ar agor drwy barhau â'ch astudiaethau yn ogystal â'ch chwaraeon.

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y dewisiadau a'r cyfleoedd gorau bosibl rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gynnydd academaidd.

Dewisiadau sydd ar gael:

  • Lefel AS/Lefel A
  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
  • Peirianneg, Ynni Adnewyddadwy a Phŵer
  • Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored
  • Gan ddibynnu ar eich graddau, gall y cyrsiau hyn roi i chi'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i fynd ymlaen i ddilyn cwrs prifysgol.

Datblygiad Unigol
Dadansoddiad Gêm Cynhwysfawr ac Ystadegau manwl:

  • Mynediad i ffilm o'r holl gemau a chwaraewyd o fewn y Gynghrair Ysgolion a Cholegau Cenedlaethol. Gellir cyrchu pob gweithred o fewn pob gêm yn unigol. Mae pob gweithred chwaraewr yn cael ei godio a'i roi mewn pecyn chwaraewr.
  • Darperir ystadegau manwl sy'n benodol i'r gêm i chwaraewyr a thimau.
  • Dadansoddiad fideo yn gysylltiedig â chynlluniau datblygu unigol (CDU).
  • Mae gan bob chwaraewr broblemau gyda CDU, caiff y rhain eu diweddaru bob tymor ac maent yn ddogfen gydweithredol rhwng hyfforddwyr a chwaraewyr.

Datblygiad Corfforol
Gan fod y gofynion corfforol sy'n gysylltiedig â rygbi'n cynyddu bob blwyddyn mae'r pwyslais ar ddatblygu athletwyr yn hollbwysig. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygiad corfforol gan ganolbwyntiar gyflymdra, cryfder a chyflyru. Er mwyn iddynt allu rhoi sylw i'w datblygiad corfforol mae gan fyfyrwyr fynediad i'r canlynol:

  • Wedi ei arwain gan hyfforddwr S&C Academi RGC
  • Campfa perfformio o'r radd flaenaf
  • Rhaglen cryfder a chyflyru gydol y flwyddyn
  • 3 awr o sesiynau dan oruchwyliaeth yr wythnos
  • 3 digwyddiad proffilio Corfforol Cenedlaethol

Meddygaeth ac Iechyd Chwaraewr

  • Wedi ei arwain gan staff meddygol Academi RGC
  • Mynediad i 3 chlinig yr wythnos
  • Sgrinio meddygol ar ddechrau a diwedd pob tymor (gaeaf/gwanwyn)
  • Gofal parafeddyg a thrawma ar ochr y cae ym mhob gêm

Dewis
Cewch eich dewis i fod yn aelod o Academi Rygbi Coleg Llandrillo ar sail gwahoddiad a threial. Cysylltir â chwaraewyr sy'n aelodau o dîm Dan 16 RGC os ydynt yn cyrraedd y lefel briodol o ran datblygiad a gallu i berfformio.

Rydym hefyd yn annog chwaraewyr nad ydynt wedi bod yn rhan o dîm Dan 16 URC i ymgeisio gan ein bod o'r farn bod chwaraewyr yn datblygu ar wahanol adegau, a bod unigolion yn gallu ffynnu o gael yr arweiniad a'r amgylchedd iawn.

Academi WRU/RGC
Bydd nifer bychan o chwaraewyr hefyd yn cael cynnig lle gydag Academi URC/RGC.

Tra byddant yng Ngholeg Llandrillo bydd y chwaraewyr hyn yn cael cefnogaeth ychwanegol gan staff URC/RGC, yn ogystal â'r gefnogaeth arferol gan staff Academi Coleg Llandrillo.

Ysgoloriaeth Rygbi

  • Swm o £500 (£1000 dros ddwy flynedd)
  • Gwobr i chwaraewyr Academi sydd wedi arddangos gallu rygbi uchel
  • Helpu a chostau sy’n gysylltiol a ffordd o fyw chwaraeon perfformiad.
  • 5 ar gael i bob oedran

Hanes Llwyddiannau'r Myfyrwyr

  • Mae 52 o Chwaraewyr Hŷn RGC wedi symud ymlaen drwy'r RGC - Llwybr Coleg Llandrillo
  • Cyfartaledd o 13 o chwaraewyr llwybr RGC - LLandrillo yn Sgwad Diwrnod Gêm Hŷn RGC
  • Afon Bagshaw: Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) - Cymru Dan 20
  • Harri Evans: Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) - Cymru Dan 20
  • Morgan Williams: Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) - Cymru Dan 18 a Thîm Saith Bob Ochr Cymru
  • Rhun Williams: Llwybr at Adeiladu - Cymru Dan 18 a Dan 20.
  • Ianto Pari: Lefel A - Cymru Dan 18

Cysylltwch â ni am ymholiadau pellach

Andrew Williams

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date