Trefnu Cefnogaeth mewn Arholiadau
I drefnu cefnogaeth mewn arholiadau, siaradwch â'ch tiwtor a chyflwynwch dystiolaeth o'ch anabledd. Bydd eich tiwtor yn eich cyfeirio at y tîm Cefnogaeth ADY mewn Arholiadau a fydd yn ystyried yr addasiadau rhesymol y gofynnir amdanynt ar gyfer eich arholiadau.
Pwysig: Rhaid cyflwyno tystiolaeth ategol.
Ydych chi wedi cael cefnogaeth mewn arholiadau yn y gorffennol?
Ymunwch ag un o'n Sesiynau Gwybodaeth am Gefnogaeth mewn Arholiadau i gael rhagor o wybodaeth. Siaradwch â'ch tiwtor neu cysylltwch ag alnexamsupport@gllm.ac.uk.
Adolygu Eich Cefnogaeth mewn Arholiadau
Os ydych chi'n teimlo bod angen diweddaru'r cymorth a gewch mewn arholiadau, cysylltwch â'ch tiwtor neu anfonwch neges e-bost i alnexamsupport@gllm.ac.uk .