Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) i fyfyrwyr y Deyrnas Unedig
Mae'r DSA yn darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr y DU sydd ag anghenion dysgu ychwanegol / anableddau, gan helpu gydag anghenion sy'n gysylltiedig ag astudio, mynediad corfforol, a llesiant. Nid yw’n seiliedig ar brawf modd, nid oes angen ei ad-dalu (oni bai eich bod yn gadael eich cwrs yn gynnar, ac os felly efallai y bydd gofyn i chi ad-dalu cyfran ohono) ac mae’n rhoi mynediad i wasanaethau cymorth amrywiol.
Yr hyn y gall y DSA ei Ariannu:
- Offer arbenigol (e.e. cadeiriau ergonomig, technoleg gynorthwyol).
- Cynorthwywyr anfeddygol (e.e. tiwtoriaid sgiliau astudio, mentoriaid iechyd meddwl/awtistiaeth, dehonglwyr BSL).
- Hyfforddiant technoleg gynorthwyol i'ch helpu i ddefnyddio offer addas yn effeithiol.
- Cefnogaeth arall sy'n gysylltiedig ag astudio (e.e. argraffu, cetris inc).
- Costau teithio ychwanegol sy'n gysylltiedig â’ch anabledd.
Yr hyn na all y DSA ei ariannu:
- Costau anabledd nad ydynt yn gysylltiedig â’ch cwrs, fel gofal personol neu gymdeithasol.
Dysgu Rhagor
Ymunwch â gweminar i gael rhagor o wybodaeth am y DSA. Siaradwch â'ch tiwtor i wybod pryd y bydd y rhain yn cael eu cynnal. Gallwch hefyd anfon neges e-bost i ady@gllm.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Adnoddau ychwanegol:
Sut i Wneud Cais:
Gallwch wneud cais am y DSA cyn dechrau eich cwrs neu gadarnhau eich lle yn y brifysgol.
- Gwnewch gais ar-lein trwy eich darparwr cyllid:
Asesiad o Anghenion:
Os ydych chi'n gymwys, fe'ch gwahoddir i asesiad o'ch anghenion, sy'n drafodaeth anffurfiol. Yn ystod y cyfarfod trafodir eich anghenion, ynghyd ag unrhyw rwystrau, a bydd yr asesydd yn awgrymu dulliau cefnogi a allai eich helpu.
Mae'r asesiad yn cymryd tua 1-2 awr, a gallwch ddod â rhywun gyda chi os byddai'n well gennych beidio â mynd ar eich pen eich hun.
Ar ôl eich asesiad, byddwch yn derbyn adroddiad drafft a fydd yn argymell offer a chefnogaeth i chi.
Gwneud Cais am Gymorth Ychwanegol:
Os oes angen rhagor o gymorth wedi'i ariannu gan y DSA arnoch yn ystod eich astudiaethau, cysylltwch â'ch Canolfan Asesu Anghenion DSA i ofyn am argymhellion ychwanegol ar ôl eich asesiad o anghenion.
Os nad yw eich canolfan ar gael bellach, dywedwch wrth eich darparwr cyllid er mwyn i chi gael eich cyfeirio at un newydd.
Newidiadau yn eich Amgylchiadau:
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, cysylltwch â’ch darparwr cyllid DSA (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru) i ddiweddaru eich hawl i gymorth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen arweiniad pellach arnoch, cysylltwch â'r tîm ADY - ady@gllm.ac.uk.