Cael Cefnogaeth gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol / Anableddau wrth Astudio
Os oes angen cymorth arnoch gydag anghenion dysgu ychwanegol / anabledd, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl.
Gallwch ddweud wrthym ar eich cais UCAS neu'ch cais i'r coleg cyn i chi gyrraedd yma, neu ar unrhyw adeg tra byddwch yn astudio gyda ni.
Cyn i Chi Gyrraedd
Os gwnaethoch chi ddweud wrthym am eich anghenion dysgu ychwanegol / anabledd ar eich ffurflen gais a'ch bod wedi derbyn cynnig i astudio gyda ni, bydd y tîm ADY yn cysylltu â chi i gyflwyno eu hunain ac i drafod eich anghenion cymorth.
Os na wnaethoch chi gynnwys y wybodaeth hon yn eich cais ond yr hoffech wneud hynny, gallwch anfon neges e-bost i ady@gllm.ac.uk i roi gwybod i ni.
Yn Ystod eich Astudiaethau
Gallwch ddweud wrthym am eich anghenion dysgu ychwanegol / anabledd unrhyw bryd drwy siarad â’ch tiwtor neu gysylltu â’r tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Darparu Dogfennau Ategol
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi copïau o unrhyw ddogfennau ategol i ni. Gall y rhain gynnwys llythyr meddyg, adroddiad arbenigwr, neu adroddiad seicolegydd addysg, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Gwneud Cais am Adolygiad
Os ydych eisoes yn cael cymorth ychwanegol ac eisiau adolygu eich cymorth presennol, gallwch ofyn am gael cyfarfod â’r tîm ADY drwy anfon neges e-bost i ady@gllm.ac.uk.