Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwybodaeth ar gyfer rhieni/gofalwyr a gwarcheidwaid

Mae symud o’r ysgol i goleg yn gam mawr ym mywyd person ifanc. Ein bwriad ydi i weithio’n agos gyda chi fel rhieni, gwarchedwiad, gofalwyr i sicrhau bod eich plentyn yn cael y gefnogaeth gywir tra yn y coleg. Trwy ein Darpariaethau Dysgu Cyffredinol ac Ychwanegol, mae’r coleg yn ymdrechu i ddarparu’r cyfleoedd gorau i ddysgwyr ddatblygu a gwneud cynnydd.

Mae ein campysau’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i baratoi pobl ifanc ar gyfer astudiaethau pellach neu gyflogaeth.

Beth ddylwn ei wneud os oes gan fy mhlentyn anghenion dysgu ychwanegol?

Er mwyn adnabod dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a fydd yn y cofrestru yn y coleg, rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion a’r Awdurdodau Addysg Lleol. Mae’r cod ADY hefyd yn nodi ei bod yn ofynnol i’r coleg gael canitâd y person ifanc, felly mae’n bwysig bod hyn yn cael ei drafod.

Bydd Cydlynwyr Cefnogi Dysgu’n mynychu adolygiadau blynyddol eich plentyn yn yr ysgol; os nad oes aelod o dîm y coleg yn bresennol, cysylltwch â’r coleg a siaradwch â’r Cydlynydd ADY yn yr ysgol.

Anogir darpar ddysgwyr i ddatgleu unrhyw ADY neu rwystrau i ddysgu ar ffurflen gais y coleg.

Yn ystod digwyddiadau agored, bydd y Tîm ADY wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Fydda i’n gallu mynychu adolygiad CDU fy mhlentyn?

O dan y cod ADY a Deddf ADY 2018, bydd plentyn yn dod yn berson ifanc unwaith y byddant yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol (h.y. dydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn y mae’r plentyn yn troi’n 16 oed).

Mae’r gyfraith hon yn dweud y bydd hawliau rhieni mewn perthynas ag addysg y person ifanc yn trosglwyddo’n awtomatig i’r person ifanc eu hunain ar ôl iddynt gyrraedd 16 oed.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol a cholegau ymgysylltu’n uniongyrchol â’r person ifanc yn hytrach na’u rhieni fel arfer.

Os bydd y person ifanc yn rhoi caniatâd bydd rhieni a gofalwyr yn parhau i gymryd rhan mewn trafodaethau.

Fodd bynnag, y person ifanc sy’n gyfrifol am y penderfyniad terfynol ynghylch cydsynio i baratoi a chynnal Cynllun Datblygu Unigol (CDU).

Sut y byddaf gwybod os ydi fy mhlentyn yn gwneud cynnydd?

Bydd y tîm addysgu'n adolygu cynnydd academaidd eich plentyn yn rheolaidd. Bydd y staff addysgu'n gosod targedau ar gyfer dysgwyr, gan adnabod unrhyw rwystrau i ddysgu a rhoi strategaethau addas yn eu lle.

Ar y cyd â staff addysgu, bydd y Tîm ADY yn cynnal adolygiadau. Rydym yn anelu at roi’r dysgwyr yng nghanol y broses adolygu; yn ogystal a chydnabod cyfraniadau rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid eu gwneud i’r broses.

Mae croeso i rieni, gofalwyr neu warcheidwaid ymweld â’r coleg unrwy adeg yn ystod y flwyddyn academaidd i drafod cynnydd eu plentyn.

Sut mae’r coleg yn gweithio gyda’r Awdurdodau Lleol i gefnogi trosglwyddo i’r coleg?

Mae gan bob Awdurdod Lleol berson dynededig ar gyfer ôl 16.

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Awdurdodau Lleol i ddarparu cefnogaeth i bobl ifanc ag ADY sy’n trosglwyddo i’r coleg. Gall hyn gynnwys cyfleoedd i ddod yn fwy cyfarwydd â champws y coleg, cyfarfod âstaff a/neu gymryd rhan mewn sesiynau blasu. (os ar gael)

Cysylltiadau i dudalenau ADY yr Awdurdodau Lleol:

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date