Camau Cefnogol
Mae Camau Cefnogol yn rhoi cyfle i ddysgwyr 16-25 oed gael mynediad at becyn pwrpasol o gymorth mentora.
Camau Cefnogol: Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn
Mae Camau Cefnogol yn rhoi cyfle i ddysgwyr 16-25 oed gael mynediad at becyn pwrpasol o gymorth mentora p'un a ydynt; yn trosglwyddo i Addysg Bellach neu’n ddysgwyr presennol sydd angen cymorth ychwanegol gyda'u taith ddysgu. Cynigir cefnogaeth iddynt barhau i ymwneud â dysgu, fynd i gyflogaeth gynaliadwy, neu symud ymlaen i Addysg Uwch neu hyfforddiant. Bydd y prosiect yn adnabod ac yn cefnogi'r dysgwyr mwyaf agored i niwed sydd fwyaf mewn perygl o ymddieithrio.
Mae ein Model 3 Cam o Gyfle-Cymunedol-Dilyniant yn hwyluso’r llwybrau pontio, integreiddio a dilyniant ac yn annog ymgysylltiad yn dibynnu ar anghenion/rhwystrau unigol eu dysgwyr, gan roi cyfle i lunio eu dyfodol, cryfhau gwytnwch, a chael mynediad at hyfforddiant i ddatblygu sgiliau a'r cymorth personol angenrheidiol i symud ymlaen. Mae Camau Cefnogol / Supportive Steps ar gael ar bob un o'n campysau yn Siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.Nod y Gronfa ydy cynyddu balchder pobl yn eu cymuned a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoliadau, cefnogi busnesau lleol, pobl a sgiliau.
Camau Cefnogol: Sir Ddinbych
Mae Camau Cefnogol yn rhoi cyfle i ddysgwyr 16-25 oed ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl gael mynediad at becyn pwrpasol o gymorth mentora a fydd yn eu cefnogi ar eu llwybr dysgu ac yn eu cynorthwyo i setlo i fywyd coleg. Byddwn yn darparu gwasanaeth cymorth mentora lles cofleidiol gyda’r nod o alluogi dysgwyr newydd i barhau i ymgysylltu â dysgu hyd at ddiwedd y prosiect a thu hwnt.