Cludiant Coleg Meirion-Dwyfor
Os ydych yn fyfyriwr Addysg Bellach llawn amser sydd:
- yn byw yn siroedd bwrdeistrefol Gwynedd neu Fôn ac
- yn byw dros dair milltir o gampws y Coleg yr ydych yn ei fynychu
... yna byddwch yn gymwys i gael tocyn bws am ddim i'ch galluogi i deithio yn ôl ac ymlaen i'ch capws agosaf ar fysiau a ddarperir gan y Cyngor.
Mae tocynnau bws i fyfyrwyr yn byw yn Ynys Môn a Gwynedd ar gael am ddim i fyfyrwyr Coleg Menai, Glynllifon a Choleg Meirion Dwyfor.
- Mae angen i fyfyrwyr sy'n byw yn Ynys Môn ddod i'r Gwasanaethau Dysgwyr i gofrestru am eu tocyn.
- Mae angen i fyfyrwyr sy'n byw yng Ngwynedd lawr lwytho'r ap Tocyn Teithio. Cewch wybod mwy drwy fynd i wefan Cyngor Gwynedd neu alw 01766 771000.
Campws Dolgellau:
Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Kirsty Edwards-Blockley kirsty.edwards-blockley@gllm.ac.uk neu 01341 422 827 est 8448
- Amserlenni bws Tocyn Teithio 16+ Cyngor Gwynedd (Gwefan Cyngor Gwynedd)
- Trefniant Bysiau
Campws Glynllifon:
Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Llinos Morris: llinos.morris@gllm.ac.uk neu 01286 830261 est 8535
- Amserlenni bws Tocyn Teithio 16+ Cyngor Gwynedd(Gwefan Cyngor Gwynedd)
- Cludiant Cyngor Conwy
- Amserlen Ynys Môn i Glynllifon
Campws Pwllheli:
Am wybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Helen Jones: hw.jones@gllm.ac.uk neu 01758 701 385 est 8618
- Amserlenni bws Tocyn Teithio 16+ Cyngor Gwynedd (Gwefan Cyngor Gwynedd)
- Amserlen
Bws Arriva:
Gall pob myfyriwr brynu tocyn bws Arriva am bris gostyngol. Mae modd prynu'r rhain ar y bws drwy ddangos tocyn bws dilys neu gerdyn ID myfyriwr, neu gellir eu prynu bob tymor neu bob blwyddyn oddi ar wefan Arriva: www.arrivabus.co.uk/students
Mae rhagor o ostyngiadau ar gael ar y ddolen ganlynol: fyngherdynteithio.llyw.cymru/cy/. Mae'n cynnig traean yn rhagor oddi ar gost teithio ar fws cyhoeddus i fyfyrwyr o dan 21 oed.
Teithio mewn car:
Mae cyfleusterau parcio i'w cael ar bob un o brif gampysau'r Grŵp, ac ni chodir tâl arnoch am barcio.
Teithio ar y trên:
Mae gostyngiadau i fyfyrwyr ar gael gyda chardiau rheilffordd. Ewch i https://www.railcard.co.uk/ am ragor o wybodaeth.
Teithio ar fws y coleg:
Cod Ymddygiad Teithio Coleg
Ni fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a drwg ar gludiant coleg yn cael ei oddef. Bydd troseddwyr cyson a/neu ddifrifol yn colli eu hawl i deithio ar holl gludiant y coleg.
Bydd y coleg yn monitro ymddygiad ar fysiau ac yn dilyn gweithdrefnau disgyblu'r coleg lle bo angen.