Eich lles yn y coleg
Yn yr adran hon byddwch yn dysgu am sut rydym yn cefnogi eich lles yn ystod eich amser yn y coleg.

Adduned Lles Grŵp Llandrillo Menai
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i gefnogi lles ein holl ddysgwyr a staff drwy hyrwyddo a darparu ystod o gyfleoedd a gwasanaethau. Mae gofalu am eich lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol yn bwysig er mwyn sicrhau eich bod yn mwynhau eich amser ac yn llwyddo yn y coleg.
Mae'r adduned lles yn cefnogi'r broses o roi STRATEGAETH LLES Y STAFF A'R DYSGWYR ar waith ac yn
crynhoi'r ymrwymiad i gefnogi iechyd meddwl a lles pob un ohonom.
Byddwn yn cefnogi eich LLES EMOSIYNOL A CHYMDEITHASOL drwy
- Godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a lles
- Darparu cymorth ac arweiniad arbenigol gan dîm o staff ymroddedig
- Cynnig mynediad i wasanaethau cwnsela a chymorth proffesiynol
- Datblygu cyfleoedd ar gyfer trafodaethau agored am les
- Datblygu apiau a phecynnau cymorth i hyrwyddo lles, hunanofal a gwytnwch
Byddwn yn eich cynorthwyo i GADW'N DDIOGEL drwy:
- Hyrwyddo diogelu ym mhopeth a wnawn
- Darparu cymorth personol i ddysgwyr a staff yn ystod absenoldeb
- Darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar sut i gael perthynas iach â phobl
- Gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol eraill i gynnig cyngor a chefnogaeth, e.e. ar gamddefnyddio sylweddau
- Hyrwyddo'r gefnogaeth sydd ar gael a darparu gwiriadau iechyd ar gyfer cyflyrau iechyd cronig posibl
Byddwn yn eich cynorthwyo i gyfrannu tuag at AMGYLCHEDD CYNALIADWY drwy:
- Hyrwyddo iechyd amgylcheddol
- Darparu arweiniad ar sut i fod yn amgylcheddol gynaliadwy
- Darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu awyr agored
- Datblygu a hyrwyddo dewisiadau teithio iach
- Lleihau ein defnydd o blastig untro
Byddwn yn eich cynorthwyo i fod yn IACH A HEINI drwy:
- Ddynodi a datblygu tîm o Hyrwyddwyr Lles i ddarparu a hyrwyddo cyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau lles cymdeithasol
- Darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a sesiynau ffitrwydd
- Darparu cyfleoedd i ymgysylltu â'r gymuned
- Cynnig dewisiadau bwyta ac yfed iach ar bob safle
- Hyrwyddo gweithgareddau corfforol
Rydym yma i'ch helpu chi
Gwyliwch y fideo yma i ddarganfod mwy am y gwasanaethau lles yn eich coleg.
Amser i Chi
Mae Amser i Chi yn wasanaeth galw heibio cyfrinachol a ddarperir gan Dîm Lles Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.
Mae'n gyfle i chi gael sgwrsio â rhywun sy'n barod i wrando arnoch a rhoi cefnogaeth i chi ar amrywiaeth o faterion.
Gall dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai lenwi'r ffurflen hunangyfeirio ar-lein (ar e-Drac neu'r Hwb Lles) neu anfon neges e-bost at y tîm staysafe@gllm.ac.uk. Dylai Dysgwyr Seiliedig ar Waith y Consortiwm gysylltu â'u tiwtor neu'u hasesydd yn gyntaf.
Cliciwch yma i gael gwybod rhagor neu i gysylltu â'r Tîm Lles.
Brecwast am ddim
Brecwast yw pryd pwysicaf y dydd. Fel rhan o'n hymrwymiad i wella iechyd a lles, rydym yn cynnig brecwast am ddim i'n dysgwyr.
Llun - Gwener, yn ystod y tymor yn unig
- Dewiswch un diod: te, coffi neu sudd ffrwythau
- Dewiswch ddau eitem fwyd: tost a menyn, darn o ffrwyth neu far grawnfwyd
- Campws wedi'i farcio â seren* - Sudd ffrwythau a bar grawnfwyd yn unig
Coleg Llandrillo
- Abergele: 8:45-9:25 *
- Llandrillo-yn-Rhos
- Ffreutur: 8:30-9:00
- Bistro: 8:30-9:00 *
- Lolfa chwaraeon: 8:30-9:00 *
- Dinbych: 8:45-9:30 *
- Y Rhyl: 8:30-9:00
Coleg Menai
- Bangor: 8:30-9:15
- Parc Menai: 8:45-9:10 *
- Llangefni
- Ffreutur: 8:30-9:15
- Siop Goffi: 9:15-9:30 *
- Llwyn Brain: 8:45-9:30 *
- Caernarfon: 9:00-9:30 *
- Caergybi: 8:45-9:15 *
Coleg Meirion-Dwyfor
- Dolgellau
- Ffordd ty'n coed: 8:45-9:10
- Marian CaMDA: 8:45-9:10 *
- Pwllheli
- Penrallt: 8:45-9:15
- Hafan: 9:00-9:25 *
Coleg Glynllifon
- PA@ Glynllifon: 8:45-9:05 *
I gael mynediad i'r brecwast:
Cofiwch wisgo eich cerdyn adnabod dysgwr a laniard
Ewch i'r cownter a dewisiwch eich bwyd
Ewch i'r til er mwyn i'r staff wneud cofnod o'ch brecwast neu sganiwch y cod QR ar y poster brecwast.
Rhaid i chi gasglu'r brecwast mewn person, a gellir ond darparu un brecwast y dydd.
Byddwch yn ymwybodol o giwiau wrth gasglu brecwast. Rhaid mynychu gwersi ar yr amser cychwyn arferol.
Urddas yn ystod Mislif
Gan weithio gyda'n Llysgenhadon Actif, rydym wedi datblygu'r ymgyrch 'Nid yw'n Rhwystr'. Fel rhan o'r ymgyrch hon rydym yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwneud gweithgareddau corfforol gan fod hyn yn lleihau symptomau'r mislif. Y neges yn syml yw na ddylai'r mislif fod yn rhwystr i gymryd rhan mewn addysg na gweithgareddau corfforol. Ochr yn ochr â hyn rydym wedi datblygu sesiynau ymarfer corff y gall dysgwyr eu gwneud o adref.
Cynhyrchion am ddim: Yng Ngrŵp Llandrillo Menai rydym hefyd yn darparu cynhyrchion untro ac amldro ecogyfeillgar AM DDIM, un ai trwy'r Gwasanaethau i Ddysgwyr ar bob campws neu trwy eu dosbarthu i gartrefi'r dysgwyr.
Rhaglen Les a Gweithgaredd Corfforol
Mae gennym raglen les a gweithgareddau corfforol yn y coleg ac mae'r Swyddogion Lles, y Swyddogion Cyfoethogi Profiadau a'r Swyddog Rygbi yn gweithio gyda'r dysgwyr i drefnu amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon a gweithgareddau eraill ar bob campws.