Dyddiau i Groesawu Ymgeiswyr Newydd
Os ydych chi wedi gwneud cais i astudio gyda ni ym mis Medi, byddwch yn derbyn gwahoddiad i ddiwrnod 'Croeso i'r Coleg' ym mis Mehefin.
Bwriad y diwrnod yw rhoi rhagflas i chi o'r coleg a chewch gyfle i gwrdd â'r tiwtoriaid, gweld y campws a'r cyfleusterau a chymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol sy'n gysylltiedig â'ch maes pwnc.
Mae'n gyfle hefyd i ofyn cwestiynau ac i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael cyn i chi ymuno â ni ym mis Medi.
Rydym yn cynnal Diwrnod Croeso i'r Coleg ar bob un o'n campysau:
- Llandrillo-yn-Rhos: Dydd Llun 23 Mehefin, 9:30am-12:30pm
- Y Rhyl: Dydd Mawrth 24 Mehefin, 9:30am-12:30pm
- Dolgellau: Dydd Mawrth 24 Mehefin, 9:30am-12:30pm
- Pwllheli: Dydd Mercher 25 Mehefin, 9.30am-12.30pm
- Llangefni: Dydd Iau 26 Mehefin, 9.30am-12.30pm
- Bangor: Dydd Gwener 27 Mehefin, 9.30am-12.30pm
- Glynllifon: Dydd Gwener 27 Mehefin, 9:30am-12:30pm
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: ymholiadau@gllm.ac.uk
