Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Pa gyrsiau gradd rydym ni yn eu cynnig?

Rhagor o wybodaeth am y dewis helaeth o raglenni gradd sydd ar gael.

Rydym yn cynnig dewis helaeth o gymwysterau lefel uwch, yn cynnwys Graddau Sylfaen a Graddau Anrhydedd, sydd wedi cael eu dilysu gan Brifysgol Bangor.

Mae llawer o'n cyrsiau'n arwain at gymwysterau Addysg Uwch galwedigaethol sydd wedi cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr. Eu bwriad yw rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y mae ar gyflogwyr eu hangen a'ch helpu, p'un a ydych yn symud ymlaen i gyflogaeth neu'n awyddus i wella eich sgiliau a'ch gyrfa.

Mae ein graddau yn cynnwys:

Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth:

Iaith Arwyddion Prydain ac Astudiaethau Byddardod

Busnes a Rheoli:

Cyfrifiadura, Technolegau Digidol a Datblygu Gemau:

Prentisiaethau Gradd:

Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig:

Cwnsela:

Peirianneg a Thechnoleg Ynni:

Prentisiaethau Gradd:

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant:

Lletygarwch:

Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth:

Cyfryngau, Teledu a Ffilm:

Celfyddydau Perfformio, Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth:

Yr Heddlu a Gwasanaethau Cyhoeddus:

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored:

Hyfforddiant Athrawon:

Teithio a Thwristiaeth:

Cyrsiau Newydd ar gyfer Medi 2024

  • BA (Anrh)/Gradd Sylfaen (FdA) mewn Iechyd Cyhoeddus, Llesiant a Chymorth Cymdeithasol

I gofrestru eich diddordeb, anfonwch neges e-bost i graddau@gllm.ac.uk

Students using a computer

Prentisiaeth Gradd:

Mae prentisiaethau gradd yn cynnig llwybr gwahanol i'r un addysg uwch academaidd arferol. Maent yn cyfuno gwaith llawn amser ag astudio'n rhan-amser.

Rhai o fanteision prentisiaethau gradd:

  • Dim dyled – Fel arfer mae myfyrwyr addysg uwch yn wynebu ffioedd dysgu o dros £9,000 y flwyddyn, ynghyd â'r costau byw sy'n gysylltiedig ag astudio oddi cartref. Mae'r cyrsiau hyn yn cael eu hariannu'n llawn gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru – felly cewch holl fanteision gradd gonfensiynol heb orfod dioddef yr anfanteision ariannol!
  • Ennill cyflog wrth ddysgu – Fel Prentis Gradd byddwch yn cael eich cyflogi am ran o'r cwrs, sy'n golygu y byddwch yn ennill cyflog tra hefyd yn astudio.
  • Cymhwyster diwydiannol – Mae'ch cymhwyster yn uniongyrchol berthnasol i'ch diwydiant, felly rydych chi a'ch cyflogwr yn meithrin y sgiliau sydd arnoch eu hangen i lwyddo.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer Prentisiaethau Gradd BSc (Anrh) mewn:

Gallwch ddarganfod mwy am ein hystod o brentisiaethau gradd yma.

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur

Arweiniad i gyrsiau lefel prifysgol

Graddau Anrhydedd
Rydym yn cynnig dewis eang o Raddau Anrhydedd, a ddilyswyd ac a ddyfernir yn bennaf gan Brifysgol Bangor. Fel arfer, mae ein dysgwyr yn dechrau trwy ddilyn cwrs Gradd Sylfaen ar Lefel 4 a 5, ac yna'n mynd ymlaen i Radd Atodol Lefel 6. Mae mwyafrif ein rhaglenni gradd atodol yn cael eu darparu dros gyfnod o flwyddyn i fyfyrwyr llawn amser neu dros gyfnod mwy hyblyg o ddwy flynedd i fyfyrwyr rhan-amser. Yn ogystal, rydym yn cynnig dewis cyfyngedig o gyrsiau Gradd Anrhydedd tair blynedd, sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr sydd angen mwy o hyblygrwydd. Ar y cyfan, cwblheir y rhaglenni cynhwysfawr hyn dros dair blynedd ar gyfer myfyrwyr llawn amser neu cânt eu hymestyn dros bedair, pump neu chwe blynedd ar gyfer y rhai sy’n dewis astudio'n rhan-amser.

Graddau Sylfaen
Mae ein Graddau Sylfaen yn werth 240 o gredydau Addysg Uwch, sy'n cynnwys 40 credyd o ddysgu seiliedig ar gyflogadwyedd. Yn wahanol i raglenni israddedig arferol, mae Graddau Sylfaen yn canolbwyntio ar gyfuno theori â gwaith ymarferol mewn lleoliadau byd go iawn. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth a'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan helpu i wella'ch rhagolygon cyflogaeth a'ch paratoi ar gyfer mwy o gyfrifoldebau a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Datblygwyd ein holl gyrsiau Gradd Sylfaen fel eu bod yn cynnig llwybrau dilyniant clir i gyrsiau Gradd Anrhydedd – un ai yng Ngrŵp Llandrillo Menai neu yn un o'r sefydliadau sy'n bartneriaid i ni.

Tystysgrif neu Ddiploma Genedlaethol Uwch (HNC/HND)
Mae ein cyrsiau Tystysgrif neu Ddiploma Genedlaethol Uwch (HNC/HND) wedi'u cynllunio ar gyfer y rhai sydd am gael cymhwyster lefel prifysgol sy'n gysylltiedig â byd gwaith. Mae myfyrwyr llawn amser yn astudio cwrs HND/HNC am gyfnod o flwyddyn a myfyrwyr rhan-amser yn gwneud hynny am ddwy flynedd. Mae'r cyrsiau'n cynnig dull ymarferol a chymhwysol o ddysgu, gan roi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, mae llwybrau dilyniant ar gael i gyrsiau Gradd Sylfaen neu Brentisiaethau Gradd ar Lefel 5 neu 6.

Prentisiaethau Gradd
Gan fod Prentisiaethau Gradd yn cael eu hariannu'n llawn yng Nghymru ni fyddwch yn talu unrhyw ffioedd o gwbl! Mae prentisiaethau gradd yn cynnig llwybr gwahanol i brifysgol trwy gyfuno gwaith llawn amser ag astudio'n rhan-amser.

  • Ennill cyflog wrth ddysgu – Fel Prentis Gradd bydd eich cwrs yn cael ei gyfuno â'ch cyflogaeth, felly byddwch yn ennill cyflog tra hefyd yn astudio.
  • Cymhwyster diwydiannol – Mae'ch cwrs yn uniongyrchol berthnasol i'ch diwydiant, felly rydych chi a'ch cyflogwr yn meithrin y sgiliau sydd arnoch eu hangen i lwyddo.
  • Sgiliau cyflogadwyedd – Mae Prentisiaeth Gradd yn caniatáu i chi barhau i gael profiad gwaith ymarferol a datblygu eich gyrfa.

I gael lle ar gwrs Prentisiaeth Gradd bydd angen i chi fod yn gweithio un ai'n llawn amser neu'n rhan-amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) mewn diwydiant peirianneg/digidol/TG perthnasol. Ym mlwyddyn olaf eich Prentisiaeth Gradd, byddwch yn symud i Brifysgol Bangor i astudio am ddiwrnod yr wythnos i gwblhau'r cymhwyster BSc/BA (Anrh). Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn gradd o Brifysgol Bangor yn y Seremoni Raddio flynyddol.