Barn ein Myfyrwyr
Gwrandewch ar beth sydd gan ein myfyrwyr i'w ddweud am ddilyn cwrs gradd yn y coleg.
Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored
Lowri a Morgan o'r cwrs Gradd Sylfaen mewn Hyfforddi ym maes Chwaraeon (Gwyddor Chwaraeon) yn trafod eu datblygiad o ran chwaraeon a sut mae'r profiad gwaith maent wedi'i gael ar y cwrs wedi helpu i feithrin eu sgiliau.
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Mae Faith, sy'n dilyn y cwrs BA (Anrh.) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn siarad am yr ystod o wasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y coleg a sut mae'r staff cefnogi wedi ei helpu i fagu hyder a gwella ei sgiliau cyfathrebu.
Mae Mandy sy'n astudio am Dystysgrif Addysg Uwch mewn Cwnsela yn trafod dychwelyd i'r coleg fel myfyriwr aeddfed.
Cyfryngau, Teledu a Ffilm
Mae Anthony ac Annie ill dau'n dilyn y cwrs Gradd Sylfaen mewn Cyfryngau Creadigol a Chyfryngau Darlledu ac yma maen nhw'n sôn am yr offer o'r radd flaenaf sydd ar gael i'r myfyrwyr a sut mae'r cwrs wedi helpu i ddatblygu eu sgiliau creadigol.
Cyfrifiadura a Datblygu Gemau
Mae Benjamin a Conrad yn dilyn y cwrs Gradd Sylfaen mewn Animeiddio 3D a Datblygu Gemau, a Michael yn dilyn y cwrs Gradd Sylfaen mewn Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd). Maen nhw'n canmol yr offer a'r meddalwedd sydd ar gael i'r myfyrwyr gan eu bod o'r un safon ag a geir mewn diwydiant ac yn sôn hefyd am y cysylltiadau maen nhw wedi gallu eu datblygu yn y diwydiant.