Pam Ein Dewis Ni?
Beth bynnag yw'ch uchelgais ar gyfer y dyfodol, rydym yma i wneud yn siŵr eich bod yn manteisio i'r eithaf ar eich amser yn y coleg a'ch bod chi'n barod i symud ymlaen i addysg uwch, prentisiaeth neu gyflogaeth.
![Myfyrwyr Lefel A ar ganlyniadau da](/imager/images/2475/1.-Section-10-left_b53bbcbaa438afef7e17904f53c4511b.jpeg)
Canlyniadau Rhagorol
Bob blwyddyn, bydd ein myfyrwyr yn cael canlyniadau rhagorol ac yn dewis un ai parhau a'u hastudiaethau mewn prifysgol neu fynd ymlaen i fyd gwaith.
![](/imager/images/55507/RhosonSea-336_b53bbcbaa438afef7e17904f53c4511b.jpeg)
Cefnogaeth Ragorol i Fyfyrwyr
Dyfarnodd arolygiad diwethaf y llywodraeth bod safon y gofal, y gefnogaeth a'r arweiniad a roddwn i fyfyrwyr yn 'rhagorol' – felly cewch bob gofal yn ystod eich amser yn y coleg.
![Rhieni a phlentyn yn darllen llyfr](/imager/images/Parents-Guide/493040/ParentsGuide1_60b0c36b5514262903d7722335d6ce50.jpeg)
Rhieni a gwarcheidwaid
Drwy ddewis dod i’r coleg i astudio caiff eich plentyn fynediad at ystod eang o gyrsiau, offer ac adnoddau arbenigol, a darlithwyr sydd â phrofiad proffesiynol yn eu maes.
![Myfyrwyr yn chwarae rygbi](/imager/images/2554/6.-Section-10-right_b53bbcbaa438afef7e17904f53c4511b.jpeg)
Cyfleoedd i Gyfoethogi Profiadau Myfyrwyr
Tra byddant yn astudio yn y coleg, gall myfyrwyr fanteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau allgyrsiol fydd yn eu helpu i feithrin annibyniaeth a hyder ac yn ehangu eu profiadau.
![](/imager/images/3174/RhosonSea-200_b53bbcbaa438afef7e17904f53c4511b.jpeg)
Amgylchedd Croesawus a Chyfeillgar
Ar yr holl gampysau, ceir amgylchedd croesawgar a hynod gynhwysol lle bydd staff yn eich cefnogi i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gewch yn y coleg.
![](/imager/images/55472/Pwllheli-40_b53bbcbaa438afef7e17904f53c4511b.jpeg)
Cyfleusterau o'r Radd Flaenaf
Gan mai ni yw'r coleg mwyaf yng Nghymru, yn ddiweddar rydym wedi gallu buddsoddi dros £30 miliwn mewn cyfleusterau sy'n sicrhau eich bod yn cael profiadau dysgu tan gamp.