Cefnogaeth Ragorol i Fyfyrwyr
Dyfarnodd arolygiad diwethaf y llywodraeth bod safon y gofal, y gefnogaeth a'r arweiniad a roddwn i fyfyrwyr yn 'rhagorol' – felly cewch bob gofal yn ystod eich amser yn y coleg.
Ein tîm Gwasanaethau Dysgwyr
Ym mhob coleg, mae gennym dimau cyfeillgar a all roi cyngor a gwybodaeth i chi ynghylch gyrfaoedd a chyflogadwyedd, sut i wneud cais am gyrsiau a cheisiadau UCAS, ffioedd cyrsiau, cyllid a chludiant.
Lles Myfyrwyr
Rydym yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am y cymorth arbenigol sydd ar gael a'ch cyfeirio at asiantaethau allanol. Gall Tiwtoriaid Personol a staff y Gwasanaethau i Ddysgwyr ddarparu cymorth ynghylch amrywiaeth o faterion, yn cynnwys iechyd a lles, mentora; cwnsela tymor byr, cyllid myfyrwyr a diogelu.
Cefnogaeth Ariannol
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol i astudio. Gall ein Cynghorwyr eich arwain drwy'r gwahanol fathau o gymorth ariannol sydd ar gael.
Cefnogaeth i ddefnyddio'r Gymraeg
Heddiw, mae llawr o swyddi yng Nghymru'n gofyn am y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Felly, gallai astudio'n ddwyieithog roi mantais i chi pan fyddwch yn chwilio am waith.
Cymorth dysgu
Mae gan y coleg staff arbenigol i gynorthwyo dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Byddant yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun fydd yn sicrhau eich bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gewch yn y coleg ac yn llwyddo i ennill eich cymhwyster.