Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Amgylchedd Croesawus a Chyfeillgar

Ar yr holl gampysau, ceir amgylchedd croesawgar a hynod gynhwysol lle bydd staff yn eich cefnogi i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gewch yn y coleg.

Cyngor i Ddysgwyr

Gallwch gael cyngor ac arweiniad gan staff ymroddedig ein Gwasanaethau i Ddysgwyr ar amrywiaeth o faterion, yn cynnwys cymorth ychwanegol i astudio, materion ariannol, cyngor gyrfaol a gwasanaethau cwnsela cyfrinachol.

Yr Hwb Cefnogi Myfyrwyr...

Tiwtor Personol

Bydd eich Tiwtor Personol yn eich helpu i ymgynefino â bywyd yn y coleg a bydd yn cynllunio ac adolygu eich cynnydd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd eich targedau. Mae'ch tiwtor personol yma i feithrin perthynas gadarnhaol a chynhyrchiol gyda chi fydd yn eich helpu i wireddu eich uchelgais.

Bydd eich Tiwtor Personol yn eich helpu drwy...

Annibyniaeth

Bydd y coleg yn eich helpu i fagu hyder a datblygu eich annibyniaeth. Mae gennym ddiwylliant o barchu'r naill a'r llall ar yr holl gampysau.

Cewch eich trin fel oedolyn, a chewch hefyd y cyfrifoldebau sy'n cyd-fynd â hynny. Tra byddwch yn astudio yn y coleg, cewch gyfleoedd i gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau allgyrsiol fydd yn meithrin eich annibyniaeth ac ehangu eich profiadau.

Cyfleoedd Cymdeithasol

Cewch gyfle i gwrdd â phobl newydd ac i wneud ffrindiau newydd mewn amgylchedd sy'n gyfeillgar a heriol. Mae cyn-fyfyrwyr yn dweud wrthym yn aml mae un o'r pethau gorau am astudio yma oedd y ffrindiau a wnaethant. Eich coleg chi yw hwn, a chi fydd yn dewis pa brofiadau a gewch yma.