Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Canlyniadau Rhagorol

Bob blwyddyn, bydd ein myfyrwyr yn cael canlyniadau rhagorol ac yn dewis un ai parhau a'u hastudiaethau mewn prifysgol neu fynd ymlaen i fyd gwaith.

Myfyrwyr Lefel A ar ganlyniadau da

Lefel A

Mae'r cyfraddau llwyddo yng Ngrŵp Llandrillo Menai wedi codi 2% ers y llynedd i 99%. Llwyddodd 77.3% o'r dysgwyr i gael graddau A* i C (cynnydd o 3% ers 2023), gyda 23% yn cael y graddau uchaf posibl sef A* ac A (yr un fath â 2023).

Llwyddodd 64 o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai, mwy nag erioed o'r blaen, i ennill y graddau angenrheidiol i fynd i brifysgolion Grŵp Russell, a bydd un yn mynd i Brifysgol Rhydychen. Mae chwech o fyfyrwyr hefyd wedi ennill y graddau i astudio Meddygaeth, sef y nifer uchaf erioed yn hanes y Grŵp.

Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau Lefel A
Skills award student with flag

Llwyddiant ym maes Sgiliau Galwedigaethol

Mae ein myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n rhoi cyfle iddynt brofi eu sgiliau yn erbyn myfyrwyr o bob cwr o'r byd. Mae llawer wedi cymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills gan deithio cyn belled â Rwsia a Brasil i gystadlu. Yn 2023, enillodd ein myfyrwyr 33 medal, gan gynnwys 8 medal aur.

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Arolwg Dysgwyr 2025

Dychwelodd dysgwyr o'r coleg adborth cadarnhaol ar eu profiadau yn ein Harolwg Dysgwyr diweddaraf.

Dewch y wybod mwy...
Degree Students

Graddau

Mae'r seremoni raddio flynyddol yn dathlu cyflawniadau unigol ein myfyrwyr Addysg Uwch. Bob blwyddyn mae cannoedd o raddedigion yn derbyn eu graddau mewn seremoni arbennig, a llawer o'r rhain yn cael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.

Myfyriwr yn gweithio ar waith brics

Prentisiaethau

Ym myd diwydiant, mae ein prentisiaid yn parhau i ragori yn eu gwahanol feysydd, gan ennill llu o wobrau am eu gwaith caled. Ymhlith ein llwyddiannau diweddar mae gwobr 'Prentis y Flwyddyn' Redrow a 'Medal Ragoriaeth' yn rownd derfynol cystadleuaeth WorldSkills.

Cychwyn ar eich taith fel prentis
Myfyrwyr yn chwarae rygbi

Canlyniadau Chwaraeon

Mae ein hacademïau rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd yn meithrin y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr proffesiynol. Mae athletwyr talentog o'r academïau wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol.

Dewch i gyflawni eich potensial yn ein hacademïau chwaraeon
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date