Cyfleusterau o'r Radd Flaenaf
Gan mai ni yw'r coleg mwyaf yng Nghymru, yn ddiweddar rydym wedi gallu buddsoddi dros £30 miliwn mewn cyfleusterau sy'n sicrhau eich bod yn cael profiadau dysgu tan gamp.
Cyfleusterau o'r Radd Flaenaf
Ar ein campysau mae gennym ddwy ganolfan beirianneg fodern, ynghyd a chanolfannau arbenigol ym maes cyfrifiadura a realiti rhithwir, iechyd a gofal a lletygarwch.
Yn y canolfannau hyn ceir yr offer diweddaraf sydd o'r un safon ag a geir mewn diwydiant. Bydd hyn yn rhoi profiad i chi o'r byd go iawn ac yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Y Ganolfan Brifysgol
Lleolir y Ganolfan Brifysgol (UCCL) mewn adeilad pwrpasol ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos. Yn y ganolfan addysg uwch hon, ceir theatrau darlithio ac ystafelloedd seminar o'r radd flaenaf, yn ogystal ag adnoddau llyfrgell arbenigol, cyfleusterau TG a mannau astudio.
Llyfrgelloedd a Gweithdai TG
Mae'r cyfleusterau hyn, lle ceir y meddalwedd a'r caledwedd diweddaraf ynghyd â staff cyfeillgar i gynnig cymorth ac arweiniad, yn agored i fyfyrwyr yn ystod y dydd, ambell fin nos a hyd yn oed yn ystod y gwyliau.uc
Bwytai a Chaffis
Ar ein campysau, mae amrywiaeth o ffreuturau a chaffis, yn cynnwys tai coffi Starbucks a Costa, sy'n cynnig bwydlenni at ddant pawb. Felly, os bydd arnoch awydd brechdan, pryd poeth, neu ddim ond coffi a chacen, bydd hen ddigon o ddewis ar gael i chi.
Cyfleusterau Chwaraeon
Ymhlith ein cyfleusterau ardderchog mae neuaddau chwaraeon a champfeydd, ac ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ceir cae pêl-droed 3G maint llawn gyda llifoleuadau. Mae croeso i bob myfyriwr ddefnyddio'r cyfleusterau chwaraeon sydd gan y coleg ar gampysau Bangor a Llandrillo-yn-Rhos, ni waeth ble maen nhw'n astudio.
Salonau Gwallt a Harddwch
Mae gennym salonau trin gwallt a harddwch ar ein campysau ym Mangor, Dolgellau, Llandrillo-yn-Rhos a'r Rhyl. Yn y salonau hyfforddi hyn, cynigir triniaethau trin gwallt, triniaethau harddwch a therapi cyfannol o safon uchel a phroffesiynol. Caiff y salonau eu rhedeg gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer cymwysterau yn y maes.