Pam dewis y coleg ar gyfer cyrsiau lefel prifysgol?
Dyma rai rhesymau pam y dylech chi ddilyn cwrs lefel prifysgol gyda ni:
Enw Da
Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) yn adolygu darparwyr ac yn cadarnhau ansawdd uchel ein cyrsiau. Rydym wedi derbyn cymeradwyaeth yr Asiantaeth am ‘wella cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr’.
Staff Addysgu Arbenigol
Mae gan ddarlithwyr ein cyrsiau lefel prifysgol lawer o brofiad o addysgu ar lefel uwch. Mae gan lawer o'n staff gymwysterau lefel uwch fel graddau Doethuriaeth a Meistr ac mae rhai ohonynt wedi bod yn rhan o waith ymchwil mewn prifysgolion. Fel myfyriwr lefel prifysgol, byddwch yn elwa ar brofiad galwedigaethol helaeth ein staff sydd un ai wedi gweithio mewn swyddi uwch mewn diwydiant neu'n parhau i wneud hynny.
Boddhad Myfyrwyr
Cafodd Grŵp Llandrillo Menai sgôr ardderchog o 89% am foddhad myfyrwyr ag ansawdd y ddarpariaeth Addysg Uwch yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) diweddaraf - gan ddod i’r brig fel y darparwr gorau yng Nghymru. Gofynnwyd 28 cwestiwn i fyfyrwyr am yr addysgu ar eu cwrs, y cymorth academaidd, yr asesiadau ac adborth, a’r adnoddau dysgu - a sgoriodd grŵp y coleg yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig ym mhob cwestiwn.
Canlyniadau Llwyddiannus
Mae ein myfyrwyr yn cael canlyniadau academaidd rhagorol yn rheolaidd. Yn 2023, llwyddodd bron i ddwy ran o dair, neu 63% o'n myfyrwyr gradd i gael un ai gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch. Cafodd 62% o'n myfyrwyr radd Rhagoriaeth neu Deilyngdod. Mae'r canlyniadau hyn yn rhoi mantais gystadleuol i'n graddedigion yn y gweithle - gan helpu i wella eu cyfleoedd o ran gyrfa a chyflog.
Cyfleoedd Gwaith
Datblygir ein cyrsiau lefel prifysgol mewn ymgynghoriad â chyflogwyr lleol er mwyn sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau diweddaraf sydd eu hangen ar gyflogwyr. Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n gyson i sicrhau eu bod yn arwain at gyfleoedd gwaith go iawn. Mae ein rhaglenni hefyd yn cynnwys profiad gwaith, lleoliadau gwaith, siaradwyr gwadd ac ymweliadau.
Cefnogaeth
Rydym yn cynnig cymuned gynnes a chroesawgar i'n holl fyfyrwyr. Byddwch yn cael Tiwtor Personol ymroddedig ac mae ein dosbarthiadau bach yn golygu y bydd mwy o amser yn cael ei neilltuo i roi cefnogaeth ac arweiniad unigol i chi. Gall staff cyfeillgar a gwybodus y Gwasanaethau i Ddysgwyr hefyd eich cynorthwyo gyda'ch CV a'ch technegau cyfweliad, yn ogystal â rhoi cyngor gyrfaol i chi.
Ffioedd Fforddiadwy
Does dim i'w dalu ymlaen llaw, a byddwch yn gallu cael mynediad at amrywiaeth o fenthyciadau, grantiau a bwrsarïau myfyrwyr i'ch helpu yn ariannol yn ystod eich astudiaethau. Os byddwch yn byw gartref, gallwch hefyd arbed rhai miloedd o bunnau gan na fydd angen i chi dalu'r costau llety y mae'n rhaid i fyfyrwyr sy'n byw oddi cartref eu talu.
Dilyniant
Mae ein holl gyrsiau Gradd Sylfaen yn cyfateb i ddwy flynedd gyntaf cwrs gradd llawn ac yn eich galluogi i fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd anrhydedd. Mae'r rhan fwyaf o'r cyfleoedd hyn ar gael yma, neu o bryd i'w gilydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae ein rhaglenni eraill yn cynnig dilyniant academaidd amlwg, ac mae llawer o raddedigion yn cael dyrchafiad i swydd well neu'n symud i swydd sydd wrth fodd eu calon.
Cyfleus a Hyblyg
Mae ein hamserlenni wedi'u cynllunio i'w gwneud yn haws i chi gyfuno'ch astudiaethau â'ch swydd, eich cyfrifoldebau teuluol a'ch ymrwymiadau eraill. Cynhelir ein holl gyrsiau llawn amser a rhan-amser dros un neu ddau ddiwrnod yr wythnos yn unig, ac mae rhai ohonynt ar gael fin nos.
Y Gymraeg
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi'r Gymraeg, ac rydym yn darparu cyfleoedd i bob myfyriwr lefel prifysgol gael ei asesu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhai o'n cyrsiau'n cael eu haddysgu'n ddwyieithog hefyd, ac mae bwrsari'r Gymraeg ar gael i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg.