Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rhifedd Byw - Lluosi: Cyrsiau Mathemateg i Oedolion

Beth yw prosiect Lluosi?

Rhaglen newydd yw Lluosi i helpu oedolion i fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio rhifau yn eu bywyd bob dydd. Mae’r prosiect yn cynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM ar draws Gogledd Cymru.

Os oes arnoch angen cymorth i reoli eich arian, i fod yn gefn i’ch plant gyda’u gwaith cartref, neu i wella eich cyfleoedd yn y gwaith, gallwn ni eich helpu.

Pwy all gael yr hyfforddiant?
⁠Mae rhaglen Lluosi wedi'i hanelu'n bennaf at drigolion siroedd Gwynedd, Môn, Conwy neu Ddinbych sy'n 19 oed neu'n hŷn a heb gymhwyster lefel 2 mewn mathemateg, h.y. o leiaf TGAU gradd C neu gyfwerth.

Mae’r meini prawf wedi'u hehangu i gynnwys unigolion sydd wedi cyflawni cymhwyster lefel 2 neu uwch mewn mathemateg ond nad ydynt bellach yn gweithio ar y lefel honno ac fe hoffent wella eu sgiliau mathemateg:

  • I'w helpu i gael swydd.
  • I'w helpu i symud ymlaen yn eu gyrfa.
  • I'w helpu i symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch.

Mae'r cymorth ar gael am ddim i unigolion, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, sefydliadau a busnesau.

Cyrsiau Mathemateg

⁠Prosiect Lluosi i Ddysgwyr Unigol

Ydych chi'n awyddus i roi hwb i'ch gyrfa, neu dim ond am fod yn fwy hyderus wrth drin rhifau a gwella ansawdd cyffredinol eich bywyd? Mae Prosiect Lluosi wedi cefnogi cannoedd o ddysgwyr fel chi yng ngogledd Cymru.

Dewch i wybod am y gefnogaeth am ddim sydd ar gael i chi
Cyrsiau Mathemateg

Prosiect Lluosi i Sefydliadau

Gallwn ddatblygu sgiliau a hyder eich gweithlu, neu'r bobl rydych chi'n eu cefnogi trwy gynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi cael eu teilwra i'w hanghenion a'u gobeithion nhw.

Cefnogaeth wedi'i hariannu'n llawn i'ch busnes neu'ch sefydliad
Cyrsiau Mathemateg

Pa gyrsiau sydd ar gael?

Mae’r prosiect yn cynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM ar draws Gogledd Cymru.

Os oes arnoch angen cymorth i reoli eich arian, i fod yn gefn i’ch plant gyda’u gwaith cartref, neu i wella eich cyfleoedd yn y gwaith, gallwn ni eich helpu.

Gweld ein cyrsiau...
Cyrsiau Mathemateg

Sut mae gwneud cais?

Am fwy o wybodaeth:

Ewch i ffurflen...
Elusen

Tystebau

Darllenwch ragor am y dysgwyr a'r sefydliadau sydd wedi gweithio gyda ni.

Dewch i wybod mwy

Newyddion diweddaraf    /    Gweld holl newyddion

Dysgwyr Lluosi'n cerdded ym Mryniau Clwyd yn ystod y cwrs canfod y ffordd

Lluosi yn cynnig ymarfer i'r corff a'r meddwl gyda chyrsiau mynydda a chyrsiau campfa

Sesiynau canfod y ffordd a sesiynau hyfforddi â phwysau yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau rhif wrth wella eu hiechyd corfforol a'u hunanhyder

Dewch i wybod mwy
Dysgwr ar y rhaglen Lluosi, Christina Georgiadou

Dysgwyr Lluosi yn dathlu llwyddiant TGAU Mathemateg a Rhifedd

Dysgwyr yn cymryd y camau nesaf tuag at ddod yn athrawon, nyrsys a bydwragedd ar ôl rhoi hwb i’w rhagolygon gyrfa gyda Grŵp Llandrillo Menai a Lluosi

Dewch i wybod mwy
Dyn yn datrys hafaliadau

Dysgwyr Lluosi yn targedu gorwelion newydd ar ôl ennill cymwysterau mathemateg

Cyfleoedd gyrfa newydd yn dod i'r amlwg ar gyfer dysgwyr sydd wedi pasio Cymhwyso Rhif Lefel 2 ar ôl cael tiwtora unigol gan Lluosi

Dewch i wybod mwy

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Grŵp Llandrillo Menai sy'n arwain prosiect Lluosi yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

Rhaglen hyfforddi arloesol a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw Lluosi a'r bwriad yw helpu pobl i wella eu dealltwriaeth a'u defnydd o fathemateg yn eu bywyd bob dydd, gartref ac yn y gwaith. Efallai eu bod am wneud hynny i wella'r sefyllfa ariannol yn y cartref, i helpu eu plant gyda'u gwaith cartref, i ddeall y ffeithiau a gyflwynir ar y cyfryngau'n well neu i wella'r sgiliau rhifedd penodol sydd eu hangen arnynt yn eu gwaith.

CYMRAEG
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date