Dyfarniad Lefel 3 ABBE mewn Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau ac Adeiladau Traddodiadol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni, Ty Gwyrddfai
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Dau ddiwrnod yn olynol
Dyfarniad Lefel 3 ABBE mewn Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau ac Adeiladau TraddodiadolCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae Dyfarniad Lefel 3 ABBE mewn Mesurau Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau ac Adeiladau Traddodiadol yn gwella dealltwriaeth am adeiladau a adeiladwyd cyn 1919. Mae'n cyd-fynd â PAS2035 a PAS2038, ac yn gweddu i Aseswyr, Dylunwyr a Chydlynwyr Ôl-osod sy'n gweithio ar adeiladau gyda llwybrau risg B a C.
Bydd dysgwyr yn gallu adnabod nodweddion adeiladau hŷn, gwerthuso opsiynau effeithlonrwydd ynni a gwneud argymhellion sut i roi mesurau gweithredu ar waith.
Dyddiadau Cwrs
CIST-Llangefni
Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
18/12/2024 | 08:30 | Dydd Mercher, Dydd Iau | 14.00 | 1 | £400 | 0 / 6 | D0021316 |
Gofynion mynediad
Nid oes angen unrhyw gymwysterau na phrofiad penodol, ond mae'n gwrs delfrydol i Aseswyr, Dylunwyr a Chydlynwyr Ôl-osod sy'n gweithio ar adeiladau traddodiadol gyda llwybrau risg B a C
Cyflwyniad
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno dros ddeuddydd olynol gyda gofyniad i gwblhau dau brawf byr yn cynnwys cwestiynau amlddewis, ac astudiaeth achos rhyngweithiol yn rhithwir ar y prynhawn olaf, a fydd yn llunio portffolio o dystiolaeth.
Diwrnod 1, 09:00 - 16:00:
- Deall Safon Brydeinig 7913 (BS 7913) sy'n berthnasol i hen adeiladau ac adeiladau traddodiadol
- Dadansoddi agweddau adeiladwaith ac oedran
- Rheoli strategaethau cynnal a chadw
- Adnabod yr hyn sy'n dylanwadu ar berfformiad ynni a goblygiadau hynny ar fesurau effeithlonrwydd ynni
- Penderfynu ar fesurau a deunyddiau addas
- Cynyddu dealltwriaeth am ddulliau effeithlonrwydd ynni
Diwrnod 2, 09:00 - 16:00:
- Rhoi cyngor ar fesurau effeithlonrwydd ynni mewn hen adeiladau ac adeiladau traddodiadol
- Cymryd rhan mewn Astudiaeth Achos Rhithwir
- Gorffen gyda dau arholiad cwestiynau amlddewis.
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster, bydd dysgwyr yn meddu ar y gallu i:
- Adnabod oedran, natur a nodweddion unigryw mewn hen adeiladau ac adeiladau traddodiadol
Gwerthuso gwahanol ddewisiadau i roi mesurau effeithlonrwydd ynni ar waith mewn adeiladau o'r fath, gan gynnig argymhellion ac arweiniad ar sut i'w cyflwyno
Asesiad
Asesiad, cwestiynau amlddewis a phortffolio.
Dilyniant
Asesydd Ôl-osod
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Dwyieithog:
Na