AIM Lefel 4 Aseswyr Ôl-osod Dyfarniad
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Astudio annibynnol sy'n rhaid ei gwblhau cyn pen 12 wythnos
AIM Lefel 4 Aseswyr Ôl-osod DyfarniadProffesiynol
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd Aseswyr Ôl-osod yn allweddol wrth i'r Deyrnas Unedig leihau ei hallyriadau carbon trwy wella effeithlonrwydd ynni a gwneud gwaith ôl-osod mewn hyd at 27 miliwn o gartrefi.
Mae PAS 2035 yn nodi'r safonau y mae'n rhaid i weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â phrosiectau ôl-osod gydymffurfio â hwy. Eu gwaith yw ymweld ag eiddo i gynnal arolwg o'r hyn sydd ei angen i wella eu heffeithlonrwydd ynni.
Gan weithio dan oruchwyliaeth Cydlynydd Ôl-osod, bydd hyn yn golygu asesu cyflwr, deiliadaeth ac arwyddocâd yr adeilad yn unol â'r PAS.
Mae'r cwrs yn un cyfunol, felly mae'r wybodaeth yn cael ei chyflwyno trwy raglen e-ddysgu ac mewn gweithdy hanner diwrnod lle bydd tiwtor ar gael i ateb unrhyw gwestiynau. Yn ogystal, rhaid cynnal asesiad rhithwir o eiddo ac yna llunio adroddiad sy'n seiliedig ar dempled asesu'r Academi Ôl-osod. Mae hyn i'ch helpu i baratoi ar gyfer yr asesiad terfynol.
Strwythur y Cwrs
Mae'r cwrs yn cynnwys naw uned sy'n trafod holl agweddau asesiad ôl-osod. Mae pob modiwl yn cynnwys deunyddiau dysgu helaeth, cyflwyniadau arbenigol, astudiaethau achos a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i roi dealltwriaeth fanwl i chi o waith ymarferol a theori.
Gofynion mynediad
Gan ei fod yn gymhwyster a reoleiddir, mae i'r cwrs Lefel 4 mewn Asesu Ôl-osod Domestig ofynion mynediad penodol. Rhaid wrth o leiaf gymhwyster Lefel 3 mewn Asesu Ynni Domestig ar gyfer pob dull astudio.
Cyflwyniad
Dysgu cyfunol
- Rhaglen e-ddysgu ddigidol o'r radd flaenaf
- Hyfforddiant ôl-osod dan arweiniad arbenigwyr
- Dysgu gan gymheiriaid a chael eich cefnogi ganddynt
- Adnoddau dysgu ac adnoddau technegol manwl
- Cefnogaeth mentor arbenigol
Asesiad
Portffolio o Dystiolaeth
Dilyniant
Cydlynydd Ôl-osod
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol
Lefel:
4