Dyfarniad mewn Asesu Cyrhaeddiad sy'n gysylltiedig â Galwedigaeth
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Bangor, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Y Rhyl, Dolgellau
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Hyd at 12 mis
×Dyfarniad mewn Asesu Cyrhaeddiad sy'n gysylltiedig â Galwedigaeth
Dyfarniad mewn Asesu Cyrhaeddiad sy'n gysylltiedig â GalwedigaethCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Os ydych am fod yn asesydd, yna dyma'r cymhwyster i chi.
Mae'r cymhwyster yn cynnwys dwy uned, un sy'n seiliedig ar theori a'r llall yn ymarferol. Bydd angen cyswllt â dau ddysgwr arnoch ar gyfer yr uned ymarferol. Dylai'r dysgwyr fod yn y coleg neu mewn gweithdy (ac nid yn y gweithle).
Gofynion mynediad
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- 16 awr o ddysgu a chyfnod cynefino.
- Astudio annibynnol ac o dan arweiniad tiwtor.
- Aseiniadau i gwblhau 8 canlyniad dysgu ynghyd â thrafodaeth broffesiynol i ddilyn.
- Yn yr uned ymarferol byddwch yn cael eich arsylwi yn yr amgylchedd gwaith yn asesu dau ddysgwr ar gymhwyster cydnabyddedig.
- Cysylltiad misol rheolaidd gydag asesydd trwy gydol y broses.
Asesiad
- Wedi'i selio ar asesiad a e-phortffolio
Dilyniant
Gallech fynd ymlaen i ddilyn rhaglenni Sicrhau Ansawdd.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Arbenigol/Arall
Dwyieithog:
n/a