Ymarferydd Cwmwl AWS

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    4 diwrnod llawn (penwythnosau)

Gwnewch gais
×

Ymarferydd Cwmwl AWS

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae cwrs yn addas ar gyfer:

  • Unigolion sy'n dymuno gweithio yn y sector TG
  • Graddedigion
  • Gweithwyr TG proffesiynol

Gofynion mynediad

  • Mae’r cwrs hwn ar gael i drigolion sy’n byw yn chwe sir Gogledd Cymru sef Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Sir y Fflint a Wrecsam.
  • AWS Cloud Practitioner - Mae'r arholiad hwn wedi'i gynllunio ar gyfer ymgeiswyr sy'n newydd i ddefnyddio'r Cwmwl ac efallai nad oes ganddynt gefndir technoleg gwybodaeth (TG).
  • Mae'r arholiad hwn ar gyfer swyddi fel gwerthu, marchnata, rheoli cynnyrch neu reoli prosiect, i gael dealltwriaeth sylfaenol am AWS Cloud.
  • Gallai ymgeiswyr sy'n sefyll yr arholiad hwn fod wedi bod yn defnyddio AWS Cloud am hyd at 6 mis, ond nid yw hynny'n angenrheidiol.

Cyflwyniad

Wedi'i gyflwyno ar-lein fel ystafell ddosbarth rithwir

Asesiad

Arholiadau ar-lein swyddogol sy'n cael eu goruchwylio

Dilyniant

  • Yn nodweddiadol mae mwy o swyddi ar gael nag ymgeiswyr medrus, ardystiedig i'w llenwi, sy'n rhoi mwy o gyfleoedd i chi ddewis o'u plith.
  • Gall Penseiri a Datblygwyr AWS ardystiedig ennill oddeutu £100k y flwyddyn.
  • Mae'r swyddi ble bo angen cymhwyster AWS Cloud yn cynnwys: ⁠
    • Peiriannydd AWS Cloud - £63k
    • Ymarferydd AWS Cloud - £65k
    • Pensaer AWS Cloud - £83k
    • (Ffynhonnell: ITJobsWatch)

  • Nod y cwrs lefel sylfaen hwn yw rhoi dealltwriaeth gyffredinol i chi am AWS Cloud. Mae'n cynnwys trosolwg o gysyniadau'r Cwmwl a gwasanaethau AWS, egwyddorion diogeledd a phensaernïaeth sylfaenol, nodweddion craidd lleoli a gweithredu yn y Cwmwl AWS, prisio, a chymorth technegol.

Mwy o wybodaeth

Lefel: 3