BPEC – Tanau/Gwresogyddion Nwy (HTR1)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Hyd at 1 wythnos yn dibynnu ar ofynion ACS

Gwnewch gais
×

BPEC – Tanau/Gwresogyddion Nwy (HTR1)

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Peirianwyr Gas Safe cofrestredig sydd angen adnewyddu eu cymwysterau ACS.

Mannau Gwaith:

CoNGLP1 (Changeover domestic natural gas to LPG) – Cyfnewid nwy domestig naturiol i LPG

PD (Permanent Dwellings) – Anheddau Parhaol

RPH (Residential Park Homes) – Cartrefi Preswyl mewn Parciau

LAV (Leisure Accommodation Vehicles) – Cerbydau Llety Hamdden

B (Boats) – Cychod

Cyfarpar LPG Penodol:

HTRLP2
– Gosod, cyfnewid, gwasanaethu, atgyweirio, datgymalu a chomisiynu tanau nwy gyda ffliwiau caeedig – LPG

Elfennau craidd:

  • Rheoliadau diogelwch nwy, Rheoliadau Adeiladu, Safonau Prydeinig a deddfwriaethau perthnasol eraill
  • ⁠Sefyllfaoedd anniogel a'r camau i'w cymryd mewn argyfwng
  • Nodweddion lleoli silindrau LPG, diogelwch a meintiau
  • Gweithredu a lleoli ar gyfer ynysu mewn argyfwng, rheoli llif a falfiau silindrau
  • Pwysau cyflenwadau
  • Pibellau nwy (yn cynnwys meintiau, gosod, diffygion a namau)
  • Profi tyndra a llwyrlanhau (PD, LAV a RPH)
  • Ffliwau ac awyru
  • Hylosgi
  • Dadansoddi perfformiad hylosgi (profion nwy ffliw)
  • Rheolyddion cyfarpar
Cyfarpar:
  • Rheoliadau diogelwch nwy, Rheoliadau Adeiladu, Safonau Prydeinig a deddfwriaethau perthnasol eraill
  • Gosod
  • Comisiynu a chanfod diffygion
  • Gweithdrefnau gwasanaethu
  • ⁠Sefyllfaoedd anniogel

Gofynion mynediad

Cymwysterau ACS blaenorol

Mae’r cwrs hwn yn addas i beirianwyr sydd â'r cymwysterau angenrheidiol i gael eu derbyn ar y Cynllun ACS. Y Bwrdd Rheoli Strategol ar gyfer y diwydiant sy'n rhedeg y cwrs a bydd ei gwblhau'n llwyddiannus yn galluogi peirianwyr i gofrestru gyda Gas Safe.

Dosberthir peirianwyr i dri chategori:

  • Categori 1 – Gweithiwr gosod nwy profiadol
  • Categori 2 – Ymgeisydd gyda phrofiad/cymwysterau perthnasol ym maes gosod nwy/peirianneg fecanyddol
  • Categori 3 – Ymgeisydd newydd heb unrhyw gymwysterau/profiad perthnasol

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ar ddiwrnod yr hyfforddiant bydd angen i chi ddod â:

  • 2x ffotograff maint pasbort
  • Copïau gwreiddiol o gymwysterau ACS sydd wedi dod i ben neu sydd ar fin dod i ben
  • Deunydd i wneud nodiadau (ni chaniateir dyfeisiau recordio)
  • Cyfrifiannell (heb fod yn un ar ffôn clyfar) y gallwn ei rhoi i chi ar y diwrnod

Byddwn hefyd yn darparu copi o'r NICEIC LPG On-site Guide i chi ei ddefnyddio yn ystod yr hyfforddiant. Gallwch brynu eich copi eich hun drwy glicio yma.

Noder: Nid yw hyfforddiant yn orfodol ar gyfer asesiad

Cyflwyniad

Hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth a gweithdy

Asesiad

Asesiad o sgiliau ymarferol a gwybodaeth

Dilyniant

  • BPEC – Mesuryddion Nwy Domestig (MET1)
  • BPEC – Gwres Canolog/Gwresogyddion Dŵr (CENWAT)
  • BPEC – Gwresogyddion Gwres Aer (DAH1)
  • BPEC – Anheddau Parhaol – Domestig, Masnachol ac Arlwyo (CCLP1 PD)
  • BPEC – Cartrefi Preswyl mewn Parciau (CCLP1 RPH)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A