BPEC - Cartrefi Preswyl mewn Parciau (CCLP1 RPH)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Hyd at 1 wythnos yn dibynnu ar ofynion ACS

Gwnewch gais
×

BPEC - Cartrefi Preswyl mewn Parciau (CCLP1 RPH)

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Peirianwyr Gas Safe cofrestredig sydd angen adnewyddu eu cymwysterau ACS.

Mannau Gwaith:

CoNGLP1 (Changeover domestic natural gas to LPG) - Cyfnewid nwy domestig naturiol i LPG

PD (PERMANENT DWELLINGS) - Anheddau Parhaol

RPH (RESIDENTIAL PARK HOMES) - Cartrefi Preswyl mewn Parciau

LAV (LEISURE ACCOMMODATION VEHICLES) - Cerbydau Llety Hamdden

B (Boats) - Cychod

Cyfarpar LPG Penodol:

HTRLP2
- Gosod, cyfnewid, gwasanaethu, atgyweirio, datgymalu a chomisiynu tanau nwy gyda ffliwiau caeedig - LPG

Elfennau craidd:

  • Rheoliadau diogelwch nwy, Rheoliadau Adeiladu, Safonau Prydeinig a deddfwriaethau perthnasol eraill
  • ⁠Sefyllfaoedd anniogel a'r camau i'w cymryd mewn argyfwng
  • Nodweddion lleoli silindrau LPG, diogelwch a meintiau
  • Gweithredu a lleoli ar gyfer ynysu mewn argyfwng, rheoli llif a falfiau silindrau
  • Pwysedd cyflenwadau
  • Pibellau nwy (yn cynnwys meintiau, gosod, diffygion a namau)
  • Profi tyndra a llwyrlanhau (PD, LAV a RPH)
  • Ffliwau ac awyru
  • Hylosgi
  • Dadansoddi perfformiad hylosgi (profion nwy ffliw)
  • Rheolyddion cyfarpar

Cyfarpar:

  • Rheoliadau diogelwch nwy, Rheoliadau Adeiladu, Safonau Prydeinig a deddfwriaethau perthnasol eraill
  • Gosod
  • Comisiynu a chanfod diffygion
  • Gweithdrefnau gwasanaethu
  • ⁠Sefyllfaoedd anniogel

Gofynion mynediad

Cymwysterau ACS blaenorol

Mae’r cwrs hwn yn addas i beirianwyr sydd â'r cymwysterau angenrheidiol i gael eu derbyn ar y Cynllun ACS. Y Bwrdd Rheoli Strategol ar gyfer y diwydiant sy'n rhedeg y cwrs a bydd ei gwblhau'n llwyddiannus yn galluogi peirianwyr i gofrestru gyda Gas Safe.

Dosberthir peirianwyr i dri chategori:

  • Categori 1 - Gweithiwr gosod nwy profiadol
  • Categori 2 - Ymgeisydd gyda phrofiad/cymwysterau perthnasol ym maes gosod nwy/peirianneg fecanyddol
  • Categori 3 - Ymgeisydd newydd heb unrhyw gymwysterau/profiad perthnasol

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ar ddiwrnod yr hyfforddiant bydd angen i chi ddod â:

  • 2x ffotograff maint pasbort
  • Copïau gwreiddiol o gymwysterau ACS sydd wedi dod i ben neu sydd ar fin dod i ben
  • Deunydd i wneud nodiadau (ni chaniateir dyfeisiau recordio)
  • Cyfrifiannell (heb fod yn un ar ffôn clyfar) y gallwn ei rhoi i chi ar y diwrnod

⁠Byddwn hefyd yn darparu copi o'r NICEIC LPG On-site Guide i chi ei ddefnyddio yn ystod yr hyfforddiant. ⁠Gallwch brynu eich copi eich hun drwy glicio yma.

Noder: Nid yw hyfforddiant yn orfodol ar gyfer asesiad

Cyflwyniad

Hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth a gweithdy

Asesiad

Asesiad o sgiliau ymarferol a gwybodaeth

Dilyniant

  • BPEC - Mesuryddion Nwy Domestig (MET1)
  • BPEC - Poptai Nwy (CKR1)
  • BPEC - Tanau/Gwresogyddion Nwy (HTR1)
  • BPEC - Gwres Canolog/Gwresogyddion Dŵr (CENWAT)
  • BPEC - Gwresogyddion Gwres Aer (DAH1)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A