Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 noswaith yr wythnos (3.5 awr), dros gyfnod o dri thymor

Disgrifiad o'r Cwrs

Ar hyn o bryd mae'r cwrs hwn yn cael ei ail-ddilysu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr a rhanddeiliaid. Mae hyn er mwyn diweddaru'r cynnwys erbyn Medi 2025.

Mae hwn yn gwrs a gydnabyddir gan y diwydiant a fydd yn apelio at y rhai a hoffai ddilyn gyrfa ym maes rhwydweithio Technoleg Gwybodaeth.

Bydd y cwrs yn rhoi cyflwyniad i rwydweithiau cyfrifiadurol, ac yna'n edrych ar sut mae switsys, llwybryddion ac offer diwifr yn gweithio a'r prosesau a ddefnyddir gan y cyfarpar i ddarparu Rhwydwaith Ardal Leol (LAN).

Yna bydd yn adeiladu ar y wybodaeth newydd hon drwy ddysgu am y bensaernïaeth a'r ystyriaethau sy'n ofynnol wrth ddylunio, gosod, gweithredu ac ymdrin ag unrhyw broblemau mewn rhwydwaith menter. Archwilir technolegau Rhwydwaith Ardal Eang (WAN) a mecanweithiau Ansawdd Gwasanaeth (QoS) hefyd.

Bydd delweddu, rhwydweithio meddalwedd ddiffiniedig a chysyniadau awtomeiddio yn cael eu hystyried ynghyd â seiberddiogelwch er mwyn cynorthwyo i ddiogelu rhwydweithiau ar gyfer y dyfodol.

Gofynion mynediad

Gwybodaeth sylfaenol am gyfrifiaduron a rhwydweithiau.

Cyflwyniad

Mae mwyafrif cynnwys y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy system Netacad Cisco, a phrofiad ymarferol yn y labordy rhwydweithio yn y coleg.

Asesiad

Mae pum arholiad mewnol yn y modiwl cyntaf, chwech yn yr ail fodiwl a phump arall yn y modiwl olaf. Mae pob modiwl hefyd yn cynnwys tri aseiniad a ddilysir gan Brifysgol Bangor.

Mae'r aseiniad cyntaf yn adroddiad ysgrifenedig, yr ail aseiniad yn gyfuniad o'r arholiadau mewnol ymhob modiwl ac mae'r trydydd aseiniad yn cynnwys prawf Olrhain Pecyn (creu rhwydwaith rithiol).

Dilyniant

Os cwblhewch y cwrs hwn yn llwyddiannus, cewch dystysgrif y gallech ei defnyddio i'ch cynorthwyo i gael swydd yn ymwneud â rhwydweithio cyfrifiadurol i fusnes bach neu ganolig yn y diwydiant yn lleol. Bydd hefyd yn eich galluogi i sefyll yr arholiad allanol Tystysgrif CCNA Cisco a fyddai'n ehangu rhagolygon gwaith fel peiriannydd rhwydwaith.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae Cydymaith Rhwydweithiau Ardystiedig yn cynnwys dwy ran.

Rhan 1: Cwricwlwm CCNA Academi Cisco – caiff hwn ei ddarparu gan sefydliadau academaidd ledled y byd (yn cynnwys Coleg Llandrillo). Eu mandad nhw (a ninnau) yw defnyddio'r rhaglen CCNA i roi sylfaen gadarn i fyfyrwyr mewn egwyddorion rhwydweithio sylfaenol (mae ceblau, damcaniaethau rhwydweithio, systemau rhifo mathemategol, electroneg, dylunio rhwydwaith, ffurfweddu dyfeisiau rhwydweithio a ffurfweddu cyfrifiaduron cleientiaid ymysg y pynciau a drafodir – gweler isod am ragor o wybodaeth).

Wedi i chi gofrestru ar y cwrs CCNA gallwch fewngofnodi (drwy ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair personol) i wefan Academi CISCO sy'n cynnwys y cwricwlwm CCNA. Gellir cyrchu mwyafrif deunydd y cwrs drwy unrhyw borwr gwe. Fodd bynnag, i osod meddalwedd y Packet Tracer, sydd ar gael drwy Windows, Linux a macOS ac sy'n rhan bwysig o'r profiad dysgu, bydd arnoch angen gliniadur neu gyfrifiadur.

Mae pob semester yn cynnwys deunydd tua 15 modiwl sy'n cael eu hasesu drwy asesiadau ar-lein (drwy'r Academi Rwydweithio), adroddiad ymchwil byr a phrawf ymarferol a gwblheir drwy'r Packet Tracer.

Wedi i chi gwblhau'r tri semester, cewch gyfle i sefyll yr Arholiad Ardystio Ymarferol.

Rhan 2: Arholiad Ardystio CCNA - mae'r arholiad ardystio CCNA ffurfiol i'w gael ar-lein. Cyn sefyll yr arholiad (sydd â marc pasio o 80-85%) bydd angen i chi adolygu'r holl ddeunydd rydych wedi'i astudio.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 4

Dwyieithog:

n/a