CompTIA CySA+
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Online
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
5 diwrnod llawn
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs CompTIA CySA+ wedi'i ddylunio ar gyfer unigolion sy'n barod i fynd yn ddwfn i fyd seiberddiogelwch. Os ydych chi newydd ddechrau neu'n ystyried gyrfa ym maes seiberddiogelwch, mae'r cwrs hwn yn ddewis ardderchog. Yn achos gweithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio ym meysydd TG a rhwydweithio, gall y cwrs hwn ddarparu llwybr cyflym i seiberddiogelwch, gan roi'r wybodaeth a'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i drosglwyddo i'r maes hwn yn gyflym ac yn llwyddiannus.
Fodd bynnag, os ydych chi'n hollol newydd i'r sector TG, rydyn ni'n cynghori dechrau gyda'r cyrsiau CompTIA A+, CompTIA Network+, a CompTIA Security+. Bydd y cymwysterau sylfaen hyn, ynghyd â rhywfaint o brofiad yn y diwydiant, yn eich paratoi'n well ar gyfer maes cymhleth seiberddiogelwch.
Mae'r buddion i unigolion sy'n caffael y sgiliau, y profiad a'r tystysgrifau mewn seiberddiogelwch yn sylweddol, gan ei wneud yn fuddsoddiad gwerth chweil.
Mewn byd cynyddol ddigidol, mae’r galw am Ddadansoddwyr Seiberddiogelwch yn cynyddu, a gallai tystysgrif CompTIA CySA+ fod yn docyn i’r maes cyffrous a llawn boddhad hwn sy’n tyfu’n gyflym.
https://www.e-careers.com/courses/comptia-cysa-certification-course-virtual-classroom
Gofynion mynediad
CompTIA Network+, CompTIA Security+ neu wybodaeth gyfatebol.
Isafswm o bedair blynedd o brofiad ymarferol fel dadansoddwr ymateb i ddigwyddiadau neu ddadansoddwr canolfan gweithrediadau diogelwch neu brofiad cyfatebol.
Nid oes rhaid bodloni unrhyw ofynion uchafswm cyflog ar gyfer y cwrs hwn
Cyflwyniad
Wedi'i gyflwyno ar-lein fel ystafell ddosbarth rithwir
Cyflwynir y cwrs hwn gan ein partner, eCareers
Asesiad
Arholiadau ar-lein swyddogol sy'n cael eu goruchwylio
Dilyniant
Mae'r cymhwyster CompTIA CySA+ yn agor drysau i ystod o swyddi ym maes Seiberddiogelwch.
Mae pob rôl yn cynnwys cyfrifoldebau unigryw ac mae'r cyflogau'n amrywio yn dibynnu ar brofiad ac arbenigedd.
Dyma rai swyddi posibl, o lefel mynediad i uwch swyddi, ynghyd â’u cyflogau cyfartalog yn y DU*:
- Technegydd TG: Swydd lefel mynediad sy'n cynnwys tasgau cymorth TG sylfaenol. Cyflog cyfartalog: £20,000 i £30,000 y flwyddyn.
- Dadansoddwr Seiberddiogelwch: Mae'r swydd hon yn cynnwys diogelu seilwaith TG trwy ddadansoddi a lliniaru bygythiadau. Cyflog cyfartalog: £30,000 i £50,000 y flwyddyn.
- Dadansoddwr Diogelwch Gwybodaeth: Mae'r swydd hon yn ymwneud â chynllunio a gweithredu mesurau diogelwch. Cyflog cyfartalog: £35,000 i £55,000 y flwyddyn.
- Arbenigwr Diogelwch Rhwydwaith: Mae'r swydd hon yn ymwneud ag amddiffyn rhwydwaith sefydliad rhag bygythiadau. Cyflog cyfartalog: £45,000 i £65,000 y flwyddyn.
- Peiriannydd Seiberddiogelwch: Mae'r swydd hon yn cynnwys dylunio, gweithredu a rheoli systemau TG diogel. Cyflog cyfartalog: £50,000 i £80,000 y flwyddyn.
- Rheolwr Seiberddiogelwch: Rôl arwain, yn goruchwylio strategaeth seiberddiogelwch a thîm seiberddiogelwch sefydliad. Cyflog cyfartalog: £60,000 i £100,000 y flwyddyn.
- Prif Swyddog Diogelwch Gwybodaeth: Uwch swydd arweinyddiaeth, yn gyfrifol am ddiogelwch gwybodaeth a data sefydliad. Cyflog cyfartalog: £80,000 i £150,000 y flwyddyn.
*Ffynhonnell Payscale
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
3