Systemau Domestig sy'n Pwmpio Gwres o'r Aer

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    4 diwrnod yn olynol

Cofrestrwch
×

Systemau Domestig sy'n Pwmpio Gwres o'r Aer

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bwriad y cwrs yw gwella sgiliau plymwyr trwy roi hyfforddiant iddynt a fydd yn eu cymhwyso i weithio yn y sector ynni adnewyddadwy.

Bydd yr ymgeiswyr yn magu'r hyder i ddewis, gosod a chynnal a chadw systemau domestig ar gyfer pwmpio gwres o'r aer.

Gofynion mynediad

NVQ/SVQ Lefel 2/3 mewn Plymio neu Wresogi ac Awyru Domestig neu Ddiwydiannol a Masnachol

Tystysgrif gyfwerth gynharach sy'n dystiolaeth o gymhwysedd

NVQ/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwasanaethau Technegol sy'n cael eu Tanio ag Olew neu

NVQ/SVQ Lefel 2/3 mewn Gosod a Chynnal a Chadw Offer Nwy

3 blynedd o brofiad perthnasol

(Rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn gymwys)

Yn ogystal, os nad yw'n gynwysedig yn yr uchod, tystysgrifau cyfredol mewn perthynas â:

Rheoliadau Dŵr/Is-ddeddfau Dŵr

Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Gwresogi Domestig

Systemau Storio Dŵr Poeth Heb Awyrellau

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs dros 4 diwrnod gan hyfforddwyr cymwysedig sy'n defnyddio deunyddiau dysgu arbennig y BPEC. Ar y 4ydd diwrnod cynhelir asesiadau gan ddefnyddio rigiau pwrpasol.

Asesiad

Cwestiynau amlddewis, atebion ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol a gynlluniwyd i sicrhau bod pob ymgeisydd trwy'r wlad yn cael ei drin yn deg a chyfartal. Golyga hyn y gall cyflogwyr a chwsmeriaid fod â hyder mewn gweithwyr a aseswyd mewn Canolfan BPEC.

Dilyniant

Mae'r cwrs yn cyfrannu at achrediadau CPS a MCS ac yn faen prawf ar gyfer ymuno â chynlluniau amgylcheddol y llywodraeth.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith