NICEIC Tystysgrif Sylfaenol ym Maes Nwy Domestig (MLP)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Rhyddhau am y dydd: 1 diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 6 mis
NICEIC Tystysgrif Sylfaenol ym Maes Nwy Domestig (MLP)Rhan amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd gwaith yr hyfforddeion yn cael ei asesu yn y meysydd canlynol:
Cyswllt â chwsmeriaid
Profi tyndra (yn cynnwys pwysedd canolog*)
Llwyrlanhau
Gosod pibellau
Olrhain gollyngiad nwy a'i atgyweirio*
Datgysylltu pibellau / mesuryddion cyn gwneud gwaith
Gosod pwysedd a chyfraddau nwy
Asesiadau risg ac arferion gweithio diogel
Gofynion awyru
Gweithredu a phrofi rheolyddion cyfarpar.
Newid cydrannau nwy cyfarpar
Offer a ddefnyddiau
Ffliwiau*
Defnyddio labeli a rhybuddion y diwydiant*
*gall y rhain gael eu hefelychu
Cynnwys y Cwrs Tystysgrif Sylfaenol ym maes Nwy i Osodwyr Annomestig:
Mae'r llwybr CMA1 yn trafod y meini prawf craidd ar gyfer gosod mesuryddion mewn lleoliadau domestig ac annomestig a rhaid cwblhau'r cynnwys dros 280 o oriau dysgu.
Mae'r llwybr CMA3 yn trafod y meini prawf craidd ar gyfer gosod mesuryddion mewn lleoliadau domestig a rhaid cwblhau'r cynnwys dros 230 o oriau dysgu.
Mae'r llwybr CMA2LS yn trafod y meini prawf craidd ar gyfer gosod mesuryddion mewn lleoliadau domestig nad ydynt i'w cysylltu i'r cyflenwad mewnol a rhaid cwblhau'r cynnwys dros 105 o oriau dysgu.
Gofynion mynediad
Rhaid i'r ymgeiswyr gael mentor er mwyn gallu dangos eu bod yn gymwys mewn sefyllfaoedd gwaith go iawn. Tra byddant yn cyflawni'r tasgau bydd y gwaith yn cael ei arsylwi a'i gofnodi gan beiriannydd Gas Safe cofrestredig sydd wedi'i gymeradwyo gan y Ganolfan. Bydd yr holl dasgau a dyletswyddau yn rhai y gellid disgwyl yn rhesymol i weithiwr nwy cymwys eu cyflawni. Felly bydd disgwyl i'r holl hyfforddeion ddangos eu cymhwysedd i gyflawni tasgau dros gyfnod o amser o dan amodau gwaith arferol er mwyn cynhyrchu digon o dystiolaeth i'w portffolio.
Cyflwyniad
- Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth.
- Arddangosiadau ymarferol.
- Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor.
- Gwaith Grŵp
Asesiad
- Asesiad ymarferol
- Arholiad theori atebion byr
- Arholiad amlddewis
- Ymarfer i ganfod peryglon
- Portffolio seiliedig ar waith
- Arholiad llyfr agored amlddewis
Dilyniant
Bydd y dystysgrif yn eich gwneud yn gymwys i fod ar gofrestr Gas Safe ar gyfer CCN1 (peipiau) + 1 dyfais.
Ar ôl bod ar y gofrestr am 12 mis, cewch fynd ymlaen i wneud hyfforddiant pellach ym maes nwy os oes angen cymwysterau ychwanegol arnoch.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
N/A
Dwyieithog:
n/a