Cwrs Sylfaen ym maes Nwy Domestig (Rhaglen Ddysgu wedi ei Reoli) Llandrillo-yn-Rhos
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Un diwrnod yr wythnos am 40 wythnos (dydd Llun)
Cwrs Sylfaen ym maes Nwy Domestig (Rhaglen Ddysgu wedi ei Reoli) Llandrillo-yn-RhosCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Ymgeiswyr sy'n gweithio yn y diwydiant plymwaith/nwy, ond nad oes ganddynt y cymwysterau angenrheidiol i fod ar gofrestr Gas Safe.
Gofynion mynediad
Profiad o weithio yn y diwydiant nwy a/neu gymhwyster NVQ Lefel 2 neu 3 mewn Plymwaith/Gwresogi. Rhaid i chi allu cynhyrchu portffolio o dystiolaeth i ddangos profiad o weithio gyda nwy. Rhaid i'r portffolio hwn gael ei gydlofnodi
Cyflwyniad
40 diwrnod yn y dosbarth/gweithdy ar y cyd â phrofiad ymarferol o weithio ar safle (bydd angen i ymgeiswyr drefnu hyn eu hunain).
Asesiad
Cwblhau portffolio o dystiolaeth o weithio gyda nwy yn y gweithle. Asesiadau a osodir gan BPEC i'w cynnal yn y Coleg.
Dilyniant
Asesiad ACS (ymarferol a theori). Bydd hyn yn eich gwneud yn gymwys i wneud cais i fod ar gofrestr Gas Safe, CCN1 (peipiau) + 1 ddyfais. Ar ôl bod ar gofrestr Gas Safe am 6 mis, cewch fynd ymlaen i wneud hyfforddiant ac asesiadau pellach ym maes nwy os oes angen cymwysterau ychwanegol arnoch.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Dwyieithog:
n/a