EAL Lefel 3 - Gweithiwr Electrodechnegol Profiadol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
I'W GADARNHAU
EAL Lefel 3 - Gweithiwr Electrodechnegol ProfiadolProffesiynol
Disgrifiad o'r Cwrs
Dim ond ar gyfer unigolion sydd wedi bod yn gweithio fel trydanwyr yn y diwydiant electrodechnegol am o leiaf bum mlynedd ac sy'n meddu ar wybodaeth, dealltwriaeth a chymwyseddau penodol (a amlinellir yn y sgan sgiliau ac sy'n cyfateb i gymhwyster Lefel 3 y brentisiaeth electrodechnegol) y mae'r cymhwyster hwn yn addas. Ar y cyd ag asesiad terfynol AM2E, mae'n rhan o'r gofynion asesu ar gyfer Gweithwyr Electrodechnegol Profiadol, ac yn galluogi gweithwyr profiadol i wneud cais am Gerdyn Aur ECS Trydanwyr Gosod.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
- trydanwyr profiadol sy'n gweithio neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant electrodechnegol am o leiaf bum mlynedd
- y rhai sydd am i'w cymwyseddau gael eu cydnabod ac sy'n gweithio tuag at Gerdyn Aur ECS
- y rhai sy'n dymuno datblygu eu gyrfa.
Beth mae'r cymhwyster yn ei gynnwys?
Y cymwyseddau sy'n gysylltiedig â gosod a chomisiynu trydanol. Mae'r cymhwyster yn cynnwys unedau ymarferol: sy'n rhoi sylw i ystyriaethau iechyd a diogelwch ac ystyriaethau amgylcheddol, trefnu'r amgylchedd gwaith, cymhwyso arferion dylunio a gosod, terfynu a chysylltu dargludyddion, archwilio a phrofi, canfod a chywiro namau. Mae hefyd yn cynnwys dwy uned sy'n trafod rheoliadau gwifro BS 7671 a dilysu cychwynnol (mae'r un unedau'n rhan o'r cymwysterau DPP a gydnabyddir gan y diwydiant).
Gofynion mynediad
Nid yw'r cymhwyster yn addas i weithwyr newydd yn y diwydiant electrodechnegol, prentisiaid, na'r sawl sydd wedi cwblhau cymhwyster electrodechnegol ond sydd â llai na phum mlynedd o brofiad yn y diwydiant.
Cyn ymgymryd â'r cymhwyster hwn, mae'n ofynnol i ddysgwyr gael asesiad o'u haddasrwydd trwy gwblhau sgan sgiliau cyn-fynediad.
RHAID i ddysgwyr allu profi bod ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth sy'n cyfateb i gymhwyster lefel 3 y brentisiaeth Electrodechnegol.
Pan na fydd gan y dysgwyr y cymwysterau perthnasol bydd eu cymhwysedd yn cael ei brofi trwy'r sgan sgiliau er mwyn gwirio bod ganddynt y wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol.
RHAID i hyn ddigwydd cyn i'r dysgwr gael ei gofrestru ar y cwrs. Ystod oedran y cymhwyster hwn yw 19+, ond gan fod ar y dysgwyr angen pum mlynedd o brofiad yn y diwydiant disgwylir y byddant yn sylweddol hŷn.
Cyflwyniad
Cyfuniad o theori a dysgu ymarferol ynghyd â gwaith portffolio
Asesiad
Asesir y dysgwyr ar eu portffolio o dystiolaeth seiliedig ar waith.
Bydd yn rhaid iddynt hefyd sefyll dau arholiad ar y sgrin (gwirio cychwynnol, a rheoliadau gwifro BS 7671).
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol
Lefel:
3