Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) - craidd yn unig

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhennir y cymhwyster yn ddwy ran - craidd ac ymarferol. Gall gymryd hyd at 18 mis i ennill y cymhwyster llawn ond dim ond ar gyfer yr elfen graidd y cynigir arian trwy Gyfrif Dysgu Personol a hynny am hyd at 6 mis yn unig.

    Mae'n bosibl mynd ymlaen i gyflawni elfen ymarferol y cymhwyster ar ôl sicrhau cyflogaeth yn y sector a chael eich derbyn i wneud prentisiaeth.

Cofrestrwch
×

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) - craidd yn unig

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r elfen graidd yn seiliedig ar theori ac felly mae wedi'i hanelu at y rheini sydd naill ai eisoes yn gweithio yn y sector neu'r rhai sydd am ddatblygu gyrfa yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys y rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau preswyl, lleoliadau nyrsio, lleoliadau iechyd meddwl a lleoliadau anabledd dysgu i enwi rhai yn unig.

Mae angen y cymhwyster hwn ar ddysgwyr er mwyn gweithio mewn swyddi penodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.

Bydd y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth, eu hymddygiad, eu sgiliau a'u hymarfer mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.

Gofynion mynediad

Rhaid i ddysgwyr gael cyfweliad boddhaol a mynd drwy'r broses sganio sgiliau i fodloni gofynion cyllido'r Cyfrif Dysgu Personol (ar gyfer y cymhwyster llawn, rhaid i unigolion gael eu cyflogi yn y sector am o leiaf 16 awr yr wythnos).

Cyflwyniad

Astudio yn eich amser eich hun, ar-lein ar sail un i un, gyda rhai sesiynau newydd a addysgir

Asesiad

Un arholiad amlddewis a asesir yn allanol

Cwblhau portffolio o dystiolaeth (gan ddefnyddio'r e-bortffolio OneFile).

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r elfen graidd yn llwyddiannus yna mae'n bosibl mynd ymlaen i elfen ymarferol y cymhwyster gan alluogi'r dysgwr i ennill Cymhwyster Lefel 2 neu 3 llawn mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

I wneud yr elfen ymarferol, rhaid i unigolion gael eu cyflogi yn y sector am o leiaf 16 awr yr wythnos ac un ai talu am gael gwneud y cymhwyster eu hunain neu gael eu derbyn ar y llwybr prentisiaeth a gyllidir yn llawn gan Lywodraeth Cymru.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser, Proffesiynol

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Myfyrwyr yn gweithio mewn ystafell ddosbarth