Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Pant a Phobl Ifanc) - craidd yn unig
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Rhennir y cymhwyster yn ddwy ran – craidd ac ymarferol. Gall gymryd hyd at 18 mis i ennill y diploma llawn ond dim ond ar gyfer yr elfen graidd y cynigir arian trwy Gyfrif Dysgu Personol a hynny am hyd at 6 mis yn unig.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Pant a Phobl Ifanc) - craidd yn unigRhan amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r elfen graidd yn seiliedig ar theori ac wedi'i hanelu at y rhai sydd am ddatblygu gyrfa yn y sector plant a phobl ifanc fel gweithwyr cymorth, gweithwyr ym maes gofal maeth neu weithwyr mewn ysgolion preswyl neu ganolfannau gofal plant arbenigol.
Mae angen y cymhwyster hwn ar ddysgwyr er mwyn gweithio mewn swyddi penodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Bydd y cymhwyster Lefel 3 mewn Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth, eu hymddygiad, eu sgiliau a'u hymarfer mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.
Gofynion mynediad
Cyfweliad boddhaol a bodloni'r gofynion ar gyfer cael eich cyllido trwy Gyfrif Dysgu Personol (ar gyfer y diploma llawn, rhaid i unigolion gael eu cyflogi yn y sector am o leiaf 16 awr yr wythnos).
Cyflwyniad
Astudio yn eich amser eich hun, sesiynau a addysgir ar-lein. |
Asesiad
1 arholiad amlddewis a asesir yn allanol
Cwblhau portffolio o dystiolaeth (gan ddefnyddio'r e-bortffolio OneFile)
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r elfen graidd yn llwyddiannus mae'n bosibl mynd ymlaen i wneud elfen ymarferol y cymhwyster a thrwy hynny ennill y Diploma Lefel 3 llawn ym maes Plant a Phobl Ifanc.
I wneud yr elfen ymarferol, rhaid i unigolion gael eu cyflogi yn y sector am o leiaf 16 awr yr wythnos ac un ai talu am gael gwneud y cymhwyster eu hunain neu gael eu derbyn i wneud prentisiaeth.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser, Proffesiynol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Children’s Development & Education
Children’s Development & Education
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Children’s Development & Education
