Lefel 4 Paratoi ar Gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Online
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
15 mis
Lefel 4 Paratoi ar Gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad PlantRhan amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae hwn yn gymhwyster seiliedig ar wybodaeth ar gyfer dysgwyr a gyflogir yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle 'carreg gamu' i ddysgwyr sydd am symud ymlaen i gymhwyster Lefel 5. Mae'r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rheini mewn cyflogaeth â thâl neu ddi-dâl neu sydd â mynediad at leoliad gwaith, mewn lleoliadau gofal plant a reoleiddir gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed, a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0 – 19. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i ddysgwyr ddatblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth allweddol sy'n sail i arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD).
Gofynion mynediad
Rhaid cael cymhwyster Lefel 3 mewn Gofal Plant
Cyflwyniad
Bydd asesydd yn cael ei ddynodi i chwi
- OneFile (portffolio electronig)
- Gweithdai
Asesiad
- Gwaith cwrs
- Asesiad mewnol
- Asesiad allanol gan y corff dyfarnu
Dilyniant
Cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 5
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Cymhwyster seiliedig ar wybodaeth yw hwn i ddysgwyr sydd wedi'u cyflogi yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Mae'r cymhwyster hwn yn cynnig cam tuag at Lefel 5 i ddysgwyr sydd am symud ymlaen i'r lefel honno. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i fwriadu'n bennaf ar gyfer pobl sydd mewn swydd â thâl neu heb dâl neu sydd â mynediad at leoliad gwaith, mewn lleoliadau gofal plant a reoleiddir gyda theuluoedd a phlant dan 8 oed a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed. Lluniwyd y cymhwyster hwn er mwyn i ddysgwyr feithrin y wybodaeth a'r ddealltwriaeth allweddol sy'n sail i arwain a rheoli yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster hwn cyn ymgymryd â chymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Children’s Development & Education
Dwyieithog:
n/aChildren’s Development & Education
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Children’s Development & Education