Dŵr Poeth Tymheredd Isel

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 ddiwrnod

Disgrifiad o'r Cwrs

Anelir y cwrs at beirianwyr systemau gwresogi a phlymwyr sydd eisoes yn meddu ar ddealltwriaeth o hanfodion systemau gwres canolog ac sy'n dymuno dylunio a gosod systemau gwresogi sy'n defnyddio dŵr poeth ar dymheredd isel. Gallai'r system fod yn defnyddio pwmp gwres fel y ffynhonnell gwres.

Gofynion mynediad

Bydd gofyn i ddysgwyr feddu ar wybodaeth am y diwydiant dŵr a phlymio.

Cyflwyniad

Cyfuniad o theori a gwaith ymarferol yn yr ystafell ddosbarth.

Asesiad

Prawf amlddewis ffurfiol ar y diwedd.

Dilyniant

Cyrsiau pellach ym maes Adeiladu / Peirianneg / Ynni Adnewyddadwy.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Peirianneg

Myfyriwr yn gweithio ar fwrdd trydanol