NPORS Peiriant Turio 360° dros 10 tunnell (N202)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    10 diwrnod

Gwnewch gais
×

NPORS Peiriant Turio 360° dros 10 tunnell (N202)

Cyrsiau Byr

Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y cwrs hwn yw rhoi i ymgeiswyr y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithredu Peiriant Turio 360° dros 10 tunnell. Mae’n addas i weithredwyr o bob gallu a'r rhai nad sydd wedi derbyn unrhyw hyfforddiant neu gyfarwyddyd ffurfiol blaenorol.

Ar ddiwedd y cwrs dylai'r holl ddysgwyr fedru:

  • Ddynodi ac egluro pwrpas y prif rannau, adeiladwaith sylfaenol, rheolyddion a therminoleg.
  • Cydymffurfio gyda gofynion y gwneuthurwr yn ôl y llawlyfr.
  • Ymgymryd gyda'r holl wiriadau cyn defnyddio peiriant.
  • Ffurfweddu a chael y peiriant yn barod ar gyfer teithio ar y safle neu'r ffordd.
  • Teithio dros dir garw a thonnog, goleddfau serth ac arwynebeddau gwastad.
  • Symud mewn gofod cyfyngedig
  • Ffurfweddu a gosod y peiriant ar gyfer dyletswyddau turio.
  • Egluro’r gweithredoedd gofynnol ar gyfer gwahanol beryglon, gwasanaethau tanddaearol ac uwchben y tir.
  • Turio mewn dulliau gwahanol mewn amrywiaeth o fathau o ddaear.
  • Rhoi deunyddiau mewn peiriannau cludo a chynwysyddion
  • Graddio, gwasgaru a lefelu daear a deunyddiau.
  • Cysylltu a thynnu bwcedi
  • Codi, symud a gosod llwythi yn hongian sylfaenol gyda'r fraich ôl ("rear boom")
  • Cyflawni cau i lawr a diogelu gweithdrefnau
  • Egluro'r gweithdrefnau llwytho a dadlwytho ar gyfer cludo peiriannau,

Gofynion mynediad

Holl ddysgwyr

  • Prawf sgrin gyffwrdd Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd CITB cyfredol
  • Dealltwriaeth dda o'r Gymraeg a/neu Saesneg yn ofynnol.

Dysgwyr Newydd

  • Nid oes rhaid cael profiad blaenorol.

Profiadol/ Gloywi

  • Un ai 18 mis o brofiad gwaith profadwy a/neu 6 mis o brofiad dyddiol cyson yn y categori hwn.

Cyflwyniad

Dysgu drwy gyfrwng gyfuniad o addysgu a gwaith ymarferol yn y dosbarth

Asesiad

9 diwrnod yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu yn y dosbarth a gwaith ymarferol

Asesiad 1 diwrnod - profion technegol NPORS


Dilyniant

Wedi cwblhau'r cwrs hwn, bydd y dysgwr yn derbyn Cerdyn Gweithredwr Wedi ei Hyfforddi Coch NPORS / CSCS.

Bydd hyn yn ddilys am 2 flynedd a bydd yn ofynnol i ddysgwyr i gofrestru am NVQ perthnasol.

Ar ôl cwblhau’r NVQ yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn derbyn y cerdyn Gweithredwr Medrus Glas. Mae hyn yn ddilys am 5 mlynedd. Dosberthir llyfr log / cofnod DPP gweithredwr hefyd a ellir ei ddefnyddio i gefnogi hyfforddiant gloywi a hyfforddiant i'r profiadol.

Cynghorir gwneud hyfforddiant gloywi pob 3 blynedd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Dwyieithog:

N/A