NPORS Swyddog Rheoli Gweithrediadau Cloddio (N027)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod
NPORS Swyddog Rheoli Gweithrediadau Cloddio (N027)Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs NPORS hwn yn addas i'r sawl sy'n gyfrifol am drin peiriannau cloddio a sicrhau diogelwch gweithrediadau a gwasanaethau.
Rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd canlynol:
• Dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant, peryglon gweithio yn y diwydiant a chyfrifoldebau swyddogion rheoli gweithrediadau cloddio
• Gwybodaeth am yr offer a ddefnyddir a bod yn gyfarwydd â Datganiadau Dull, Asesiadau Risg a Thrwyddedau Gwaith
• Dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) addas
• Cynnal yr holl wiriadau cynweithredol
• Cytuno ar arwyddion cyfathrebu a gweithdrefnau brys
• Lleoli Swyddogion Rheoli Gweithrediadau Cloddio yn ddiogel
• Diffinio ac adnabod y gwahanol fathau o wasanaethau tanddaearol
• Adnabod y risgiau a achosir gan gloddiadau a sut y gallant effeithio ar bobl
• Cynnal yr holl wiriadau diogelwch angenrheidiol yn y man gwaith
• Cynnal tasgau archwiliol
• Nodi'r risgiau sy'n gysylltiedig â chloddio'n agos i wasanaethau tanddaearol a'r arferion cloddio diogel y dylid eu defnyddio
• Cyflawni'r holl dasgau sydd eu hangen wrth orffen sifft a dilyn gweithdrefnau storio diogel
Gofynion mynediad
• Wedi cwblhau prawf Sgrin Gyffwrdd CSCS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
• Mae trwydded yrru'n ddymunol ond nid yn hanfodol.
• Saesneg o safon dda
Cyflwyniad
• Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth
• Arddangosiadau ymarferol
• Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor.
Asesiad
• Asesiad ymarferol
• Arholiad theori.
Dilyniant
Cyrsiau hyfforddi eraill ym maes peiriannau trwm ac adeiladu a fyddai'n galluogi'r dysgwyr i weithio ac ehangu eu sgiliau yn y diwydiant adeiladu. |
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2