NPORS Dadlwythwr Tipio Ymlaen (N204)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 diwrnod
NPORS Dadlwythwr Tipio Ymlaen (N204)Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Nod y cwrs hwn yw rhoi i ymgeiswyr y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithredu Dadlwythwr Tipio Ymlaen. Mae’n addas i weithredwyr o bob gallu a'r rhai nad sydd wedi derbyn unrhyw hyfforddiant neu gyfarwyddyd ffurfiol blaenorol.
Ar ddiwedd y cwrs dylai'r holl ddysgwyr fedru:
- Cyflawni gwiriadau cyn dechrau ac wrth ei redeg
- Gosod y dadlwythwr ar gyfer teithio ar y safle neu'r ffordd
- Teithio dros wahanol fathau o dir gan gynnwys tir garw a thonnog, yn llwythog ac yn ddi-lwyth.
- Teithio i fyny ac i lawr goleddau sylweddol, yn llwythog ac yn ddi-lwyth.
- Gosod y dadlwythwr i dderbyn llwythi.
- Cydymffurfio â gweithdrefnau llwytho.
- Rhyddhau llwythi i fewn i ffosydd a thros ymylon.
- Rhoi y peiriant i mewn ac allan o gyflwr gwasanaeth.
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o weithdrefnau llwytho a dadlwytho ar gyfer cludo peiriannau yn ddiogel.
Gofynion mynediad
Holl ddysgwyr
- Prawf sgrin gyffwrdd Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd CITB cyfredol
- Dealltwriaeth dda o'r Gymraeg a/neu Saesneg yn ofynnol.
Dysgwyr Newydd
- Nid oes rhaid cael profiad blaenorol.
Profiadol/ Gloywi
- Un ai 18 mis o brofiad gwaith profadwy a/neu 6 mis o brofiad dyddiol cyson yn y categori hwn.
Cyflwyniad
Dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu a gwaith ymarferol yn y dosbarth
Asesiad
2 ddiwrnod yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu yn y dosbarth a gwaith ymarferol
Asesiad 1 diwrnod - profion technegol NPORS
Dilyniant
Wedi cwblhau'r cwrs hwn, bydd y dysgwr yn derbyn Cerdyn Gweithredwr Wedi ei Hyfforddi Coch NPORS / CSCS.
Bydd hyn yn ddilys am 2 flynedd a bydd yn ofynnol i ddysgwyr i gofrestru am NVQ perthnasol.
Ar ôl cwblhau’r NVQ yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn derbyn y cerdyn Gweithredwr Medrus Glas. Mae hyn yn ddilys am 5 mlynedd Dosberthir llyfr log / cofnod DPP gweithredwr hefyd a ellir ei ddefnyddio i gefnogi hyfforddiant gloywi a hyfforddiant i'r profiadol.
Cynghorir gwneud hyfforddiant gloywi pob 3 blynedd.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A