Offeryn Osgoi Cebl NPORS (N304)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod

Gwnewch gais
×

Offeryn Osgoi Cebl NPORS (N304)

Cyrsiau Byr

Disgrifiad o'r Cwrs

Erbyn diwedd y cwrs, dylai mynychwyr allu:

  • Arddangos dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant a'u rolau a'u cyfrifoldebau
  • Arddangos dealltwriaeth o'r rheoliadau, safonau a deddfwriaeth berthnasol
  • Nodi gwasanaethau dŵr, nwy, trydan a thelathrebu ar gynlluniau
  • Archwilio'r safle am arwyddion gweledol o'r gwasanaethau sy'n bresennol
  • Dangos lle mae gwasanaethau, mewn perthynas â'r cynlluniau
  • Nodi difrod i samplau o wahanol fathau o gyfarpar tanddaearol
  • Arddangos dealltwriaeth o'r risgiau a goblygiadau cyfarpar tanddaearol sydd wedi'i ddifrodi
  • Cynnal yr holl wiriadau cynweithredol
  • Cynnal yr holl wiriadau diogelwch angenrheidiol yn y man gwaith
  • Defnyddio'r offer yn gywir i sganio ardal am gyfarpar tanddaearol a chofnodi'r canfyddiadau
  • Marcio'r safle'n glir i ddangos lleoliad y cyfarpar tanddaearol
  • Glanhau'r offer yn gywir, tynnu'r pecyn batri a'i gadw

Gofynion mynediad

  • Wedi cwblhau prawf Sgrin Gyffwrdd CSCS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
  • Mae trwydded yrru'n ddymunol ond nid yn hanfodol.
  • Dealltwriaeth dda o Saesneg llafar ac ysgrifenedig

Cyflwyniad

    • Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth
    • Arddangosiadau ymarferol
    • Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor.

Asesiad

  • Asesiad ymarferol
  • Arholiad theori

Dilyniant

Cyrsiau hyfforddi eraill ym maes peiriannau trwm ac adeiladu a fyddai'n galluogi'r dysgwyr i weithio ac ehangu eu sgiliau yn y diwydiant adeiladu.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 2