NPORS Llwythwr Telesgopig (N010)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
5 diwrnod
NPORS Llwythwr Telesgopig (N010)Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Nod y cwrs hwn yw rhoi i ymgeiswyr y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithredu llwythwr telesgopig. Mae’n addas i weithredwyr o bob gallu a'r rhai nad sydd wedi derbyn unrhyw hyfforddiant neu gyfarwyddyd ffurfiol blaenorol.
Ar ddiwedd y cwrs dylai'r holl ddysgwyr fedru:
- Gweithredu peirianwaith yr offer yn ystod tasgau rwtîn arferol.
- Asesu prun ai yw llwythi neilltuol yn ddiogel i'w codi
- Cyflawni gwaith gwasanaethu llwythwr telesgopig rwtîn a gwaith cynnal a chadw offer yn unol â chyfarwyddiadau gweithgynhyrchu.
- Cyflawni man addasiadau mecanyddol.
- Paratoi'r cerbyd i yrru ar briffyrdd cyhoeddus yn unol gyda gofynion Rhan II o'r Ddeddf Traffig Ffordd y DU.
- Deall pwrpas a galluoedd y peiriant ac unrhyw ragofalon diogelwch perthnasol gofynnol ar gyfer ei weithrediadau.
- Deall sut y mae'r peiriant llwytho telesgopig yn gweithio a'r gwaith cynnal a chadw cysylltiedig.
- Deall effeithiau llwyth, maint, pwysau, graddfeydd ac amodau daear ar sefydlogrwydd a diogelwch peiriant.
- Disgrifio'r llwytho, storio a'r cludo o ddeunyddiau cynrychioladol.
- Disgrifio adeiladwaith sylfaenol paletau.
- Disgrifio'r llwytho a ganiateir o sgaffaldiau.
Gofynion mynediad
Holl ddysgwyr
- Prawf sgrin gyffwrdd Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd cyfredol
- Dealltwriaeth dda o'r Gymraeg a/neu Saesneg yn ofynnol.
Dysgwyr Newydd
- Nid oes rhaid cael profiad blaenorol.
Profiadol/ Gloywi
- Un ai 18 mis o brofiad gwaith profadwy a/neu 6 mis o brofiad dyddiol cyson yn y categori hwn.
Cyflwyniad
Dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu yn y dosbarth a gwaith ymarferol.
Asesiad
4 diwrnod yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu yn y dosbarth a gwaith ymarferol
Asesiad 1 diwrnod - profion technegol NPORS
Dilyniant
Wedi cwblhau'r cwrs hwn, bydd y dysgwr yn derbyn Cerdyn Gweithredwr Wedi ei Hyfforddi Coch NPORS / CSCS.
Bydd hyn yn ddilys am 2 flynedd a bydd yn ofynnol i ddysgwyr i gofrestru am NVQ perthnasol.
Ar ôl cwblhau’r NVQ yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn derbyn y cerdyn Gweithredwr Medrus Glas. Mae hyn yn ddilys am 5 mlynedd Dosberthir llyfr log / cofnod DPP gweithredwr hefyd a ellir ei ddefnyddio i gefnogi hyfforddiant gloywi ac i'r profiadol.
Cynghorir gwneud hyfforddiant gloywi pob 3 blynedd.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A