PRINCE2® 7fed Argraffiad (2023) Sylfaen - Hybrid
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Online
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 diwrnod
PRINCE2® 7fed Argraffiad (2023) Sylfaen - HybridRhan amser
Disgrifiad o'r Cwrs
A yw'r cwrs PRINCE2 yn addas i mi?
Mae’r pecyn hwn yn cynnwys lefelau Sylfaen PRINCE2 (a’u harholiadau priodol) a byddai’n ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd am ennill gwybodaeth a sgiliau rheoli prosiect o’r radd flaenaf, gwella cyfleoedd cyflogaeth a datblygu gyrfa ym maes rheoli prosiectau.
Mae pynciau’r cwrs yn cynnwys:
- Egwyddorion, sy'n llywio penderfyniadau a gweithredoedd.
- Prosesau, y dull cam wrth gam ar gyfer rheoli prosiect.
- Arferion, yr agweddau ar brosiect y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt yn ystod cylch oes prosiect.
- Rheoli Pobl, mae'r 7fed argraffiad yn cynnwys yr agwedd hanfodol bwysig hon wrth reoli prosiectau.
- Rheoli a chyfathrebu digidol, gan ddefnyddio offer cyfredol i ymgysylltu â'r holl randdeiliaid.
Mae'r cwrs sylfaen wedi ei gyflwyno dros dridiau gydag arholiad ar y diwedd. Mae'r cwrs ymarferydd yn dilyn yr un fformat - cael ei gyflwyno dros dridiau gyda'r arholiad ar y diwrnod olaf.
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at Reolwyr Prosiect a darpar Reolwyr Prosiect. Mae’r cwrs hefyd yn berthnasol i staff eraill sy’n ymwneud â dylunio, datblygu a chyflawni prosiectau, gan gynnwys: Aelodau'r Bwrdd Prosiect, Rheolwyr Tîm, staff Sicrwydd Prosiect, staff Cymorth a Chefnogaeth Prosiect a rheolwyr llinell/staff gweithredol.
Mae'r cwrs yn un dwys ac mae angen darllen deunydd y cwrs ymlaen llaw, fydd yn cymryd oddeutu 6 awr. Bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar gyfer pob un o'r nosweithiau a'r penwythnos, sef cyfanswm o tua 1.5 awr y nos/dydd.
Mae gofyn i chi gadw eich cymwysterau PRINCE2 yn gyfredol trwy ail-ddilysu ar ôl 3 blynedd, neu drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus fel aelod AEXLOS.
Gofynion mynediad
Nid oes unrhyw feini prawf ffurfiol ar gyfer astudio ar lefel Sylfaen, fodd bynnag mae gwir ddiddordeb neu brofiad o Reoli Prosiect yn hanfodol.
Cyflwyniad
Cyflwyno wyneb yn wyneb ynghyd â chyflwyno arlein, 09.15-16.30 (yn fras) - ar y 3ydd diwrnod yr amser gorffen fydd 17.00 oherwydd yr arholiadau ar y dyddiau hynny. Argymhellwn eich bod yn dod i'r sesiynau wyneb yn wyneb os yw'n bosibl. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gall hynny fod yn ddefnyddiol ar gyfer y cwrs hwn.
Asesiad
Yr arholiad SYLFAEN:
Cwestiynau ag atebion amlddewis, 60 cwestiwn, angen 36/60 i lwyddo - 60%, 1 awr o hyd, llyfr caeedig.
Dilyniant
Pa swyddi alla i ymgeisio amdanynt ar ôl cwblhau fy hyfforddiant PRINCE2?
Enghreifftiau o swyddi a chyflogau bras.
PRINCE2 Sylfaen
- Gweinyddwr Prosiectau - £22k
- Dadansoddwr ym maes Rheoli Prosiectau - £28k
- Rheolwr Prosiectau Iau - £29k
- Darparydd Cymorth ym maes Rheoli Prosiectau - £30k
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Business and Management
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: