CWRS TROSI RTITB MEWN DEFNYDDIO PEIRIANT CODI TELESGOPIG AR DIR GARW;
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 Diwrnod Mwyafswm 1 Gweithredwr
3 Diwrnod Mwyafswm 2-3 Gweithredwr
CWRS TROSI RTITB MEWN DEFNYDDIO PEIRIANT CODI TELESGOPIG AR DIR GARW;Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithredwyr sydd wedi cael hyfforddiant ffurfiol ar dryc codi a weithredir gan y gweithredwr.
Gofynion mynediad
Dim
Cyflwyniad
Dysgu drwy gyfrwng gyfuniad o addysgu a gwaith ymarferol yn y dosbarth
Asesiad
Asesir gweithredwyr ar eu:
- Gallu i wirio cerbyd cyn ei ddefnyddio
- Theori a dealltwriaeth o'r terfynau gweithredu ac arferion gweithio diogel
- Gallu ymarferol i weithredu'r peiriant yn ddiogel.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs trosi hwn, gall weithredwyr fynd ymlaen i ddilyn cyrsiau eraill yn ymwneud â thryciau codi.
Gwybodaeth campws CIST-Llangefni
Mae'r cwrs ar gael yn ein canolfan hyfforddiant tryciau codi pwrpasol yng Ngholeg Menai Llangefni neu gellir ei gyflwyno ar eiddo cwsmeriaid.
Bydd y Cwrs Trosi RTITB mewn Defnyddio Peiriant Codi Telesgopig ar Dir Garw yn rhoi'r sgiliau i chi ddefnyddio'r tryciau'n ddiogel ac effeithlon, gwneud archwiliad cyn-ddefnydd, a chofio ac esbonio achosion ansefydlogrwydd tryciau a llwythi.
Er nad yw’n gyfyngedig iddynt, mae'r cwrs hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:
- Rheolyddion ac offer tryciau codi
- Cychwyn/symud/stopio a llywio'r tryc
- Defnyddio'r rheolyddion hydrolig
- Gyrru oddi ar y ffordd ar dir garw ac ar rampiau.
- Llwytho a dadlwytho cerbyd
- Stacio a dad-stacio ar Dŵr Llwytho a staciau sy'n sefyll ar eu pennau eu hunain.
- Sefydlogrwydd tryc codi
- Cod diogelwch y gweithredwr
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Dwyieithog:
No