Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    11 diwrnod dros 11 wythnos

Gwnewch gais
×

Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol

Proffesiynol

Disgrifiad o'r Cwrs

Yn berthnasol i bob gweithle, mae'r Dystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol yn ddelfrydol ar gyfer rheolwyr, arolygwyr ac unrhyw un sydd â chyfrifoldebau ym maes rheolaeth iechyd a diogelwch. Mae hefyd yn berffaith ar gyfer y rhai sy'n cychwyn ar yrfa ym maes iechyd a diogelwch ac yn rhoi carreg llamu i chi i lwyddiant.

Gyda phwyslais mewn-dyfnder ar y pethau sy'n cyfrif, mae'r Dystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol yn cynnwys:

  • Sut i reoli iechyd a diogelwch yn effeithiol
  • Sut i adnabod a rheoli peryglon gweithle cyffredin
  • Sut i fesur a fuoch yn llwyddiannus
  • Gofynion cyfreithiol allweddol y DU

Drwy astudio a defnyddio eu gwybodaeth yn y gweithle, bydd y dysgwyr llwyddiannus yn gallu:

  • Cynnal asesiadau risg yn hyderus
  • Datblygu a rhoi cynllun gweithredu manwl ar waith
  • Rheoli a lleihau risgiau yn y gweithle
  • Cefnogi a datblygu diwylliant iechyd a diogelwch eich cwmni
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno o bell gan diwtor mewn ystafell ddosbarth rithwir ar-lein a rhaid i'r unigolion gael mynediad at gyfrifiadur personol, gliniadur neu tablet addas gyda camera, seinydd a chysylltiad rhyngrwyd cadarn sy'n ddigonol i ymdopi â dosbarthu ar-lein

Gofynion mynediad

Nid oes rhagofynion ar gyfer y cymhwyster hwn. Fodd bynnag, argymhellir bod gan ddysgwyr safon addas o iaith Saesneg er mwyn medru deall ac ynganu'r cysyniadau a gynhwysir yn y maes llafur.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno o bell gan diwtor mewn ystafell ddosbarth rithwir ar-lein a rhaid i'r unigolion gael mynediad at gyfrifiadur personol, gliniadur neu tablet addas gyda seinydd, chamera a chysylltiad rhyngrwyd cadarn sy'n ddigonol i ymdopi â dosbarthu ar-lein

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfrwng sesiynau addysgu a gwaith grŵp.

Asesiad

Bydd yr asesiad yn broses dau gam:

  • NG1 – Arholiad llyfr agored er mwyn asesu'r hyn yr ydych chi'n ei wybod. Mae hwn yn seiliedig ar senarios a bydd yn cynnwys cyfweliad ar y diwedd; bydd gofyn i chi ateb cwestiynau ynglŷn â'ch cyflwyniad.
  • NG2 – Asesiad risg ymarferol er mwyn asesu beth y gallwch ei wneud (3 awr). Bydd dysgwyr yn cwblhau asesiad risg ac yn datblygu cynllun gweithredu ar gyfer eu gweithle – bydd hwn yn ddefnyddiol ac yn werthfawr yn syth.

Dilyniant

Diploma NEBOSH

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Diogelwch

Dwyieithog:

n/a

Iechyd a Diogelwch

Dau fyfyriwr yn trafod gwaith ar liniadur

Mewn cydweithrediad â'r partner
dysgu achrededig: Delyn Safety UK